Math | medical device, nebulizers and vaporizers, sprayer |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyfais yw nebiwleiddiwr sy’n eich helpu chi i gymryd eich meddyginiaeth. Mae’n newid meddyginiaeth sydd ar ffurf hylif i fod yn anwedd mân. Yna rydych chi’n anadlu’r anwedd i mewn drwy fasg neu ddarn yn y geg. Mae amryw o fathau gwahanol o nebiwleiddwyr ar gael, fel nebiwleiddwyr jet a nebiwleiddwyr uwchsonig. Gall nebiwleiddwyr uwchsonig fod yn ddrud ac yn aml ni chânt eu defnyddio tu allan i ysbytai.
Nebiwleiddwyr yw’r ffordd orau weithiau i roi dos o feddyginiaeth i rywun sy’n cael trafferth anadlu. Felly caiff nebiwleiddwyr fel arfer eu defnyddio mewn sefyllfaoedd brys i roi dos uchel o feddyginiaeth. Maent hefyd yn ffordd o roi cyffuriau i bobl sy’n methu defnyddio dyfais arall, fel plant ifanc iawn.
Mae modd rhoi nifer o wahanol feddyginiaethau gan ddefnyddio nebiwleiddiwr, gan gynnwys hydoddiannau dŵr hallt a gwrthfiotigau. Caiff meddyginiaeth fel arfer ei rhoi drwy fasg, ond mae rhai sgil effeithiau os bydd y feddyginiaeth yn mynd i mewn i’r llygaid, felly dim ond drwy roi darn yn y geg y gellir ei rhoi yn ddiogel.
Gellir defnyddio nebiwleiddwyr mewn gofal lliniarol ac i roi cyffuriau i blant ifanc iawn, fel plant sydd â bronciolitis feirysol.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |