Williams gyda tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Neco Shay Williams | ||
Dyddiad geni | 13 Ebrill 2001 | ||
Man geni | Wrecsam, Cymru | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Nottingham Forest | ||
Rhif | 7 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2009–2019 | Liverpool | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2019–2022 | Liverpool | 13 | (0) |
2022 | → Fulham (benthyg) | 14 | (2) |
2022– | Nottingham Forest | 33 | (1) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2018 | Cymru (dan 19) | 17 | (3) |
2020– | Cymru | 30 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 03 Medi 2023. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Pêl-droediwr Cymreig yw Neco Shay Williams (ganwyd 13 Ebrill 2001) sy'n chwarae i dîm cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn chwarae fel amddiffynnwr i Nottingham Forest.
Ganwyd Williams yn Wrecsam yn fab i Lee Williams ac Emma Jones [1]. Derbyniodd ei hyfforddiant cynnar yn academiau Lerpwl[2] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Lerpwl ar 30 Hydref 2019 yn erbyn Arsenal yng Nghwpan y Gynghrair.[3]
Fe'i enwyd fel chwaraewr rhyngwladol posib yng Nghymru ar gyfer Ewro 2020.[4][5] Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Cymru yn Awst 2020 ac enillodd ei gap cynta dros Gymru ar 3 Medi 2020 mewn gêm yn erbyn y Ffindir yn Helsinki.[6] Daeth ymlaen yn ail hanner y gêm yn erbyn Bwlgaria a chwaraewyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Medi 2020. Sgoriodd gôl ym munud olaf y gêm gan roi buddugoliaeth 1-0 i dîm Cymru.[7]