Neil Siegel | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1954 Brooklyn |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, systems engineer |
Cyflogwr | |
Mam | Judith Love Cohen |
Gwobr/au | Cymrodor IEEE, IEEE Simon Ramo Medal |
Mae Neil Gilbert Siegel (ganwyd 19 Chwefror 1954) yn wyddonydd cyfrifiadurol Americanaidd, peiriannydd systemau, a pheiriannydd, sy'n adnabyddus am ei ddatblygiad o lawer o systemau allweddol ar gyfer byddin Unol Daleithiau America, gan gynnwys system Olrhain Blue-Force, system cerbyd-aer heb berson cyntaf byddin yr UDA, a system Amddiffyn Awyr Ardal Flaen Byddin yr UD.[1] Mae sawl un o'i ddyfeisiadau yn cael eu defnyddio mewn gwrthrychau cyffredin hefyd, megis dyfeisiau llaw (e.e., dyfeisiau GPS symudol, ffonau smart, ac yn y blaen) sydd â mapiau digidol yn cyfeirio yn awtomatig i alinio â phwyntiau cardinal y byd go iawn.
Ganwyd Siegl yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i Bernard Siegl a Judith Love Cohen, ac mae wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn ne-orllewin Los Angeles. Iddewon oedd ei rieni.[2] Mae ganddo ddau frawd a chwaer lawn, Howard a Rachel, yn ogystal â hanner-brawd, yr actor Jack Black. Fe fynychodd Brifysgol De Califfornia, gan ennill sawl gradd mewn mathemateg. Yn ystod ac yn hwyrach ar ôl y cyfnod hwn, gweithiodd fel cerddor proffesiynol, yn bennaf yn perfformio cerddoriaeth glasurol a gwerin o’r Balcanau a’r Dwyrain Canol. Enillodd ddoethuriaeth mewn peirianneg systemau (hefyd o USC); ei ymgynghorydd oedd y cyfrifiadurwr nodedig Barry Boehm.
Yn 1976, dechreuodd weithio i gwmni oedd yn cael ei adnabod fel TRW (a brynwyd gan Northrop Grumman yn 2002).
Yn 1993, arweinodd fudiad yn TRW gan ddatblygu systemau awtomaidd unigryw ar gyfer byddin yr UDA ac (i raddau llai) cwmnïau masnachol. Llwyddodd yn eithriadol o dda mewn masnach<angen ffynhonnell>, gan dyfu'n gyflym. Creodd y cwmni lawer o gynnyrch newydd awtomeiddio cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth neu bryderus. Yn ogystal â'r fyddin ac Awyrlu'r Unol Daleithiau, roedd cwsmeriaid ar y pryd hefyd yn cynnwys meysydd dur yr UDA a'r maes ffilm.
Ym 1993, sefydlodd ei dîm system gorchymyn a rheoli cwbl awtomataidd gyntaf Byddin yr UD, y System C2 Amddiffyn Awyr Ardal Ymlaen. Mae'r system hon yn dal i gael ei defnyddio hyd at heddiw.
Yn 1995, fe enillodd ei dîm y contract i ddatblygu system "maes brwydr ddigidol" cyntaf byddin yr UD, o'r enw'r Force-XXI Battle Command Brigade and Below (yn cael ei adnabod yn gyffredinol o dan yr acronym FBCB2). Mae hyn wedi galluogi medr adnabyddus i'r UD, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y Corfflu Môr-filwyr, yn ogystal â'r fyddin.
Hefyd yn 1995, dosbarthodd ei dim safle rheoli awtomaidd cyntaf y fyddin, sy'n wedi ei ddilyn gan gyfres hir o galluon perthnasol hyd at heddiw
Yn 1997, rhoddir y cyfrifoldeb o "drwsio" y rhaglen Hunter UAV, cerbyd aer di-griw cyntaf y fyddin. Dioddefodd y rhaglen cyfres o ddamweiniau yn ystod profi a chafodd ei "ohurio". Yn ystod ei daliadaeth, doddth y rhaglen yn un o gerbydau aer di-griw mwyaf dibynadwy'r UD. Gorffennodd y Hunter ei swydd yn 1999 yn y Balcanau.
Mae ei gyfraniadau personol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn canolbwyntio ar dechnegau ar gyfer llwybro lled band hynod o isel o fewn y rhwydwaith [3] a chyflawni deinameg derbyniol trwy'r hyn y mae'n ei alw'n rhwydweithiau "force-structure-aware". [4] Mae o wedi bod yn arloeswr mewn defnyddio cymwysiadau GPS ar raddfa fawr [5] [6] (fel system Olrhain Blue-Force ). Mae o hefyd wedi cyfrannu at y maes o strwythuro datblygiadau meddalwedd ar raddfa fawr er mwyn cyfateb i'r dosbarthiad sgiliau a geir mewn timau byd go iawn.
Ers canol 2001, mae o wedi dod yn brif swyddog o dechnoleg systemau TRW (eisoes Northrop Grumman Mission Systems). Mae ei waith yn ystod yr amser yma yn waith estynedig ar ei waith blaenorol mewn rhwydweithi byddinol, rhwydwiethi "force-structure-aware" a systemau methodoleg peirianneg ar raddfa eang. Ymddeolodd ar ddiwedd 2015.
Ers 2016, ddoth Siegel yn athro o oruchwyliaeth IBM yn y USC . [7] Mae hefyd yn Athro Cynorthwyol mewn Peirianneg yn UCLA . [8] yn ogystal â hyn, mae Siegel hefyd yn dysgu dosbarthiadau peirianneg israddedig.
Mae Siegel wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau, yn gynnwys:
Mae Siegel wedi cael effaith mawr ar y ddyluniaeth a gallied o lawer o fathau gwahanol o electronegyddion traul (consumer goods) symudol, yn cynnwys ffonau symudol, GPS, ac yn y blaen. Mae o wedi ei gofrestru fel y creuwr cyntaf o lawer o dechnolegau pwysig sydd yn cael eu defnyddio hyd at heddiw gan gynnwys:
Mae Siegel yn gerddor talentog sydd yn chware'r ffliwt, târ, [21] ney, [22] a'r kaval [23] mae o eisoes wedi perfformio mewn dros 1,500 o gyngherddau yn fyd-eang. Astudiodd gerddoriaeth gyda meistr Sufi o Iran, Morteza Varzi, am dros 20 mlynedd. Mae o'n aelod o Cerddorion Proffesiynol Local 47, Ffederasiwn Cerddorion America, AFL-CIO. [24]
Mae o'n ŵr i Robyn Friend sydd yn ysgrifenyddes, dawnsiwr a chantores. Maent wedi perfformio gyda'i gilydd ledled y byd yn ystod y 30 mlynedd diweddarach.
Mae o'n cymryd rôl arweiniol mewn sawl mudiad nid-er-elw, yn cynnwys y Providence Trinity Health Care Hospice Foundation, yr Electric Infrastructure Security Council, ac yr Institute of Persian Performing Arts. Ers 2013, mae o a'i wraig wedi cynnal mudiad elusengar eu hun, y Seigel and Friend Foundation.
|access-date=
(help)
|access-date=
(help)
|access-date=
(help)