Enghraifft o'r canlynol | grwp neu ddosbarth o sylweddau cemegol |
---|---|
Math | polyamide |
Dyddiad darganfod | 1935 |
Rhan o | nylon catabolic process, nylon metabolic process |
Yn cynnwys | nylon 6, nylon 66 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r gair nylon (Cymreigiad: neilon) yn enw generig neu gyffredinol am grŵp o bolymerau synthetig h.y. wedi eu gwneud gan ddyn. Gellir eu toddi a'u prosesu'n ffibrau, yn ffilmau ac yn siapau gwahanol.[1] Cynhyrchwyd y neilon cyntaf (neilon 66) am y tro cyntaf ar 28 Chwefror 1935 gan Wallace Carothers yng nghanolfan ymchwil DuPont.[2][3] Ceir nifer o gymwysiadau masnachol i'r deunydd hwn, gan gynnwys dillad, lloriau ac i atgyfnerthu rwber, rhannau o geir ac offer trydanol ac mewn deunyddiau pacio bwyd.[4]
Un chwedl ar lafar gwlad yw mai gair cyfansawdd ydyw, sef cyfuniad o 'New York' (N. Y.) a 'London': 'NY-Lon'. Fodd bynnag, mynegodd John W. Eckelberry o'r cwmni DuPont a greodd neilon yn wreiddiol, yn 1940, nad oedd ystyr i'r "nyl", ond fod y rhan "on" wedi'i gopio o enwau tebyg e.e. cotton (cotwm) a rayon. Cyhopeddodd DuPont yn ddiweddarach mai "No-Run" - gyda 'run' yn golygu 'rhedeg' - oedd yr enw gwreiddiol a fwriwyd, ond nad oeddent yn berffaith sicr na fyddai neilon yn rhedeg (h.y. yn hollti ac yn gwahanu).[5][6]
|publisher=
(help)