Nestorius | |
---|---|
Ganwyd | 380s Kahramanmaraş |
Bu farw | c. 451 Upper Egypt |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | llenor, esgob Catholig, offeiriad Catholig, Christian theologian |
Swydd | Ecumenical Patriarch of Constantinople, archesgob Catholig |
Esgob a diwinydd Cristnogol o'r Ymerodraeth Fysantaidd yn ystod oes ddiweddar yr Eglwys Fore oedd Nestorius (tua 386 – tua 451). Daeth yn Archesgob Caergystennin yn 428 a denodd sylw am ei ddysgeidiaeth ynglŷn â natur ddeuol Iesu Grist. Yn ôl ei athrawiaeth Gristolegol, nid oedd y Forwyn Fair yn "Fam Duw", gan yr oedd ei mab Iesu yn ddyn, a'i natur ddwyfol yn tarddu o Dduw'r Tad, nid ei fam. Fe laddai ar yr arfer o alw'r Forwyn Fair yn Theotokos ("dygydd duw"). Condemniwyd Nestorius yn heretic gan Gyngor Effesws yn 431 a chollodd ei archesgobaeth.
Ganwyd Nestorius tua'r flwyddyn 386 yn Germanicia, Syria Euphratensis, yn nwyrain yr Ymerodraeth Rufeinig, ychydig flynyddoedd cyn y rhaniad rhwng yr Ymerodraeth Orllewinol a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, saif Kahramanmaraş yn Rhanbarth y Môr Canoldir, Twrci, ar olion Germanicia. Astudiodd Nestorius yn Ysgol Antioch, yn debyg yn ddisgybl i Theodoros, Esgob Mopsuestia. Aeth yn fynach ym Mynachlog Sant Euprepius cyn iddo gael ei ordeinio'n offeiriad. Enillodd enw am fod yn asgetig uniongred ac huawdl.
Penodwyd Nestorius yn Archesgob Caergystennin yn 428 gan yr Ymerawdwr Theodosius II. Hon oedd y swydd uchaf a mwyaf ddylanwadol yn Eglwys y Dwyrain. Pan gychwynnodd yn yr archesgobaeth, aeth Nestorius ati i erlid hereticiaid o bob math, ac eithrio'r Pelagiaid.[1]
Ar 22 Tachwedd 428, traddodai pregeth gan gaplan Nestorius, Anastasius, yn beirniadu'r arfer o ddyrchafu'r Forwyn Fair yn Theotokos. Parwyd sgandal a phenderfynodd Nestorius gefnogi Anastasius. Ar Ddydd Nadolig, dechreuodd yr Archesgob ar gyfres o lithoedd cyhoeddus ei hun gan ddadlau nad oedd Mair yn Theokotos, a bod defnyddio'r enw hwnnw am ei fam yn groes i'r syniad o natur ddynol yr Iesu. Ymddengys i rai bod Nestorius yn gwadu natur ddwyfol yr Iesu, ac yn ei ddisgrifio fel dyn a gafodd ei fabwysiadu gan Dduw.[1]
Arweiniwyd y gwrthwynebiad i ddysgeidiaeth Nestorious gan Cyril, Esgob Alecsandria, a gafodd ei ysgogi gan gymhellion diwinyddol a gwleidyddol. Apeliodd y ddwy ochr i'r Pab Caelestinus I. Cynhelid cyngor eglwysig yn Rhufain yn Awst 430, ac yno penderfynwyd bod yr enw Theotokos yn gywir. Rhoddid yr awdurdod i Cyril orfodi Nestorius i wrthod ei geugred. Aeth Cyril ati i gyflwyno sawl anathemâu i Nestorius, a'i orchymyn i dderbyn pob un neu wynebu esgymuniad. Perswadiodd Nestorius yr Ymerawdwr Theodosius i alw cyngor eglwysig arall ynghyd i dorri'r ddadl. Gobeithiodd Nestorius a'i ddilynwyr y byddai Cyngor Effesws (431) yn condemnio Cyril, ond llwyddodd hwnnw i ddarbwyllio'r cyngor o heresi Nestorius a chafodd ei anathemateiddio a'i ddiswyddo o'i archesgobaeth.[1]
Alltudiwyd Nestorius yn ôl i'r hen fynachlog ger Antioch, a threuliodd bedair blynedd yno. Yn 435/6 fe'i drosglwyddwyd i'r Werddon Fawr yn Niffeithwch Libia, ac yn ddiweddarach i Panopolis yn yr Aifft. Yn ystod ei alltudiaeth, ysgrifennodd diffyniad o'i ddysgeidiaeth ac hunangofiant o'r enw Llyfr Heraclides o Ddamascus. Hwnnw yw'r unig waith ganddo sy'n goroesi, a chafodd ei gyfieithiad Syrieg ohono ei ddarganfod yn 1895. Bu farw Nestorius yn Panopolis tua'r flwyddyn 451.[1]
Adeg ei farwolaeth, condemniwyd dysgeidiaeth Nestorius unwaith eto yn heresi gan Gyngor Chalcedon (451). Er i Eglwys Rhufain erlid y rhai oedd yn ei harddel, enillodd yr athrawiaeth Nestoriaidd ddilynwyr yn nwyrain yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ymfudasant i Bersia, yr India, Tsieina, a Mongolia. Anrhydeddir Nestorius heddiw yn sant gan Eglwys Asyriaidd y Dwyrain.