Math | neuadd cynnal digwyddiadau |
---|---|
Agoriad swyddogol | 24 Mai 1888 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 22.9 metr |
Cyfesurynnau | 51.813366°N 2.711904°W |
Cod post | NP25 3BY |
Arddull pensaernïol | Jacobethan |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Neuadd Fictorianaidd ydy Neuadd Rolls, a leolwyd yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Bellach, caiff ei defnyddio fel Llyfrgell y Dref. Rhodd i'r dref ydoedd fel rhan o ddathliadau Jiwbili Aur y Frenhines Victoria gan John Maclean Rolls, Ail Farwn Llangadog a ddaeth yn ei dro'n Arglwydd Llangadog.
Fe'i cofrestrwyd fel adeilad Gradd II yn Hydref 2005,[1] ac mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).[2]
Codwyd yr adeilad yn 1887-8 gan F. A. Powell mewn arddull Jacobeaidd a hynny ar gost o £8,000.[3] Defnyddiwyd tywodfaen goch ac ashlar.[4] Roedd teulu Rolls yr Hendre yn dirfeddianwyr cefnog iawn yn yr ardal ar roedden nhw'n bresennol yn yr agoriad swyddogol ar 24 Mai 1888. Cynlluniwyd y Neuadd gan F. A. Powell, sef mab Maer y Dref ar y pryd.[5] Gosodwyd organ gerdd ynddo yn 1889 - un blaenllaw iawn a wnaed gan William Sweetland, a'r flwyddyn ddilynol rhoddwyd nifer o baentiadau ar y waliau. Ym Medi 1890, cynhaliwyd arddangosfa lwyddiannus ynddo ac mae copi o'r catalog ar gael o fewn ei furiau.
Rhwng 1897 a 1903, defnyddiwyd y Neuadd ar gyfer dramâu gan Ben Greet.[2]