Newyddiaduraeth sy'n ymdrin â gwleidyddiaeth yw newyddiaduraeth wleidyddol. Mae'n canolbwyntio ar lywodraeth, y broses wleidyddol, gwleidyddiaeth pleidiau, ac etholiadau.[1][2] Heddiw mae newyddiaduraeth wleidyddol yn fwyfwy dan ddylanwad y we, yn enwedig blogiau a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol megis Twitter.[3]