Actores, cantores a dawnsiwr o'r Unol Daleithiau oedd Nichelle Nichols / / nɪˈʃɛl / ), ganwyd Grace Dell Nichols; 28 Rhagfyr1932 – 30 Gorffennaf2022) [1] sy'n fwyaf adnabyddus fel "Uhura" yn y gyfres teledu Star Trek, a'i dilyniannau ffilm. Roedd portread Nichols o Uhura yn torri tir newydd i actoresau Affricanaidd Americanaidd. [2]
Cafodd Nichols ei geni [3][4][5] yn Robbins, Illinois, yn ferch i Samuel Earl Nichols a'i wraig, Lishia (Parks) Nichols.[6] Wedyn, symudodd y teulu i gymdogaeth Woodlawn,Chicago. Cafodd Nichols ei addysg yn Ysgol Uwchradd Englewood, lle graddiodd yn 1951.[7][8]