Nigel Lawson

Nigel Lawson
Nigel Lawson


Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
11 Mehefin 1983 – 26 Hydref 1989
Prif Weinidog Margaret Thatcher
Rhagflaenydd Geoffrey Howe
Olynydd John Major

Geni 11 Mawrth 1932
Hampstead, Llundain
Marw 3 Ebrill 2023
Etholaeth Blaby
Plaid wleidyddol Ceidwadol

Roedd Nigel Lawson, Barwn Lawson o Blaby, PC (11 Mawrth 19323 Ebrill 2023[1]), yn wleidydd ac yn newyddiadurwr Ceidwadol o Loegr a oedd yn Ganghellor y Trysorlys rhwng Mehefin 1983 a mis Hydref 1989. Treuliodd gyfnod hirach yn ei swydd nag unrhyw un o'i ragflaenwyr ers David Lloyd George (1908 tan 1915), er i Gordon Brown dreulio fwy o amser nag ef ym mis Medi 2003.

Mae Lawson yn dad i'r newyddiadurwraig a'r awdures goginio Nigella Lawson, y diweddar Thomasina Lawson, Horatia Lawson, Dominic Lawson, y cyn-olygydd i The Sunday Telegraph, Tom Lawson, meistr y tŷ yn Chernocke House yng Ngholeg Caerwynt, ac Emily Lawson, cynhyrchydd teledu.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Blaby
19741992
Olynydd:
Andrew Robathan
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Geoffrey Howe
Canghellor y Trysorlys
11 Mehefin 198326 Hydref 1989
Olynydd:
John Major
  1. Nigel Lawson: Reforming chancellor dies aged 91 (en) , BBC News, 3 Ebrill 2023.