Enghraifft o'r canlynol | literary genre by form, novel genre |
---|---|
Math | nofel, llenyddiaeth trosedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nofel am dor-cyfraith, fel rheol stori sydd yn dilyn hynt troseddwr neu'r ymdrech i'w ddatgelu a'i ddal, yw nofel drosedd. Hon yw un o brif ffurfiau llenyddol ffuglen drosedd. Mae hyd y nofel yn galluogi i'r awdur lunio plot sy'n fwy cymhleth na'r stori fer drosedd, a rhoi sylw i ddatblygu'r cymeriadau, cryfhau ing a chyffro'r stori, a chadw'r darllenydd ar bigau'r drain. Gall nofel drosedd hefyd gynnwys is-blotiau ac archwilio themâu megis natur ddynol, moesoldeb, a chyfiawnder.
Ysgrifennwyd y nofelau ditectif cyntaf yn y 19g. Ysgrifennai Arthur Conan Doyle bedair nofel sy'n cynnwys y cymeriad Sherlock Holmes: A Study in Scarlet (1887), The Sign of the Four (1890), The Hound of the Baskervilles (1901–02), a The Valley of Fear (1914–15). Yn hanner cyntaf yr 20g datblygodd dau brif arddull o'r nofel dditectif: hardboiled, megis nofelau Dashiell Hammett a Raymond Chandler, a nofelau dirgelwch "cartrefol" megis cyfresi Miss Marple ac Hercule Poirot gan Agatha Christie.
Mae'r roman noir yn pwysleisio bydolwg pesimistaidd, gan gynnwys cymeriadau moesol amwys, awyrgylch tywyll, ac anobaith. Mae enghreifftiau yn cynnwys The Postman Always Rings Twice (1934) a Double Indemnity (1936) gan James M. Cain.
Mae'r nofel lys yn dilyn cyfreithwyr, erlynwyr, ac ati wrth iddynt geisio datrys trosedd a chael y troseddwr yn euog. Mae drama yn yr ystafell lys yn elfen gyffredin o'r fath nofel. Un o lenorion toreithiocaf yr is-genre hon yw John Grisham.
Mae'r nofel gyffro drosedd yn llawn pryder a pheryg, ac yn aml yn dilyn ditectif neu arwr tebyg wrth iddo geisio atal troseddwr rhag cyflawni rhagor o droseddau. Mae enghreifftiau yn cynnwys Red Dragon (1981) a The Silence of the Lambs (1988) gan Thomas Harris, a'r gyfres Millennium gan Stieg Larsson.