![]() | |
Dyddaid | 1970au |
---|---|
Lleoliad | Gogledd a chanolbarth Lloegr, Gogledd Cymru |
Gwreiddiau | Cerddoriaeth ddu Americanaidd Soul, R&B, Mød |
Mae Northern Soul yn is-ddiwylliant cerddorol a dawns yn seiliedig ar recordiau gan grwpiau a chantorion Americanaidd duon. Fel arfer mae recordiau Northern Soul o'r 1960au gyda churiad cyflym yn addas ar gyfer dawnsio egnïol ac acrobataidd.
Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc, dosbarth gweithiol yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr a Gogledd Cymru yn y 1970au.
Datblygodd Northern Soul ar ddiwedd y 1960au. Arhosodd recordiau gyda geiriau ag enaid emosiynol, curiad dawns trwm a tempo cyflym yn boblogaidd yng nghlybiau dawns Gogledd Lloegr. Ni dilynwyd y ffasiynau diweddaraf wrth i steil cerddoriaeth Soul Americaniad newid gyda ffasiynau tua Funk a Disco.
Defnyddiwyd yr enw Northern Soul ar ddechrau'r 1970au i ddisgrifio'r dewis o recordiau a'r steil o ddawnsio mewn clybiau fel The Torch yn Stoke-on-Trent, y Twisted Wheel ym Manceinion, Blackpool Mecca ac yn bennaf The Wigan Casino.
Daeth recordiau sengl 7 modfedd prin o dechrau'r 1960au gan labeli bach nad oedd wedi bod yn llwyddiannau masnachol yn gasgliadwy iawn. Cystadlodd DJ's y clybiau i ddod o hyd i recordiau nad oedd neb arall wedi llwyddo cael gafael arnynt.[1][2][3]
Datblygodd steil o ddawnsio acrobataidd iawn wedi'i ysbrydoli gan grwpiau a chantorion fel Little Anthony & the Imperials a Jackie Wilson. Roedd y dawnswyr yn dawnsio'n unigol heb bartner neu hyd yn oed cymryd fawr o sylw o ddawnswyr o'u hamgylch. Yn wahanol i'r arfer ar gyfer pobl ifanc, y dawnsio oedd peth pwysicach y noson yn hytrach na chyfarfod cariadon. Hefyd yn groes i'r arfer, dynion oedd y dawnswyr mwyaf brwdfrydig a'r mwyafrif presennol.
Roedd sbinio yn rhan bwysig o'r steil dawns gyda'r dawnswyr gorau'n gwneud ciciau uchel, fflipiau a dropio i'r llawr yn acrobataidd iawn. Roedd y cyffur amffetamin (speed) yn gymorth i lawer o'r dawnswyr gael egni ychwanegol drwy'r nos a'r bore canlynol (roedd nosweithiau'r Wigan Casino, er enghraifft, yn mynd ymlaen tan 8am y bore canlynol).[4]
Roedd steil penodol o wisgo gyda dillad llydan yn gysylltiedig â'r gerddoriaeth. Y mwyaf nodweddiadol o'r steil oedd trowsus llydan 'Oxford Bags' - hyd at 30 modfedd o led. Hefyd roedd festiau, crysiau 'Ben Sherman', cotiau a sgertiau hir ac esgidiau lledr 'brogue' yn cael eu gwisgo. Roedd yr esgidiau 'brogues' gyda gwadnau lledr yn arbennig o addas ar gyfer llithro'r traed ar y llawr dawns bren. Weithiau roedd powdr talc yn cael ei daflu dros y llawr i'w wneud yn fwy llithrig.
Gan fod y nosweithiau dawnsio yn parhau dros nôs tan y diwrnod wedyn roedd y dawnswyr yn aml yn mynd a bag ar gyfer newid dillad gyda nhw. Addurnwyd y bagiau gyda bathodynnau crwn gydag enwau'r wahanol glybiau a symbol y dwrn du.
Erbyn diwedd y 1970au roedd Northern Soul yn colli'i boblogrwydd a chynhaliwyd noson olaf y The Wigan Casino ym 1981. Mae'r gerddoriaeth a'r steil dawns wedi mwynhau adfywiad o ddiddordeb yn yr 21ain ganrif gyda ffilmiau fel Northern Soul (2014) a Soulboy (2010), rhaglenni dogfen, nosweithiau aduniadau ac hyd yn oed sîn Northern Soul ymhlith pobl ifanc yn Japan.[5]