Delwedd:Guy Fawkes effigy by William Warby from Flickr.jpg, Children from Bontnewydd, Caernarfon, collecting for the “Guy” (15730938785).jpg, 51 London Town, page 47.png | |
Enghraifft o: | gŵyl |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Tachwedd 1605 |
Yn cynnwys | ritual bonfire |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dethlir Noson Guto Ffowc neu Noson Tân Gwyllt ledled Prydain ar y 5 Tachwedd bob blwyddyn. Ar y dyddiad hwn yn 1605 y ceisiodd cynllwynwyr Catholig, gan gynnwys Guto Ffowc, ddinistrio Palas San Steffan â ffrwydron. Roedd Guto'n aelod o grŵp a'u bwriad ar ladd y Brenin Iago'r 1af, ond methodd eu hymdrech pan daliwyd Guto tra roedd yn gwarchod y powdwr gwn yn seleri Tŷ'r Arglwyddi. Er mwyn dathlu'r ffaith fod y brenin yn dal i fyw taniwyd coelcerthi ledled Llundain, yn unol â thraddodiad yr oes.
Mae'r arferiad o wneud "Gei", sef model o Guto Ffowc ei hun yn tarddu'n ôl i ddiwedd y 18g pan oedd plant tlawd yn gwneud arian poced drwy ddilorni'r model (pabyddol) hwn, ac o dipyn i beth daeth y 5ed o Dachwedd yn ganolbwynt i'r gweithgaredd. Collwyd yr arferion a'r casineb gwrth-babyddol erbyn cychwyn y 20g a thrôdd y weithgaredd yn un cymdeithasol.
Ceir cofnodion o 1607 o goelcerthi cyhoeddus yn cael eu cynnau yng Nghaerliwelydd, Norwich a Nottingham, gyda cherddoriaeth y ffrwydro cannons yn rhan o'r dathliadau. Yn Dorchester, a oedd yn dref Protestanaidd, darllenwyd pregeth, cynheuwyd coelcerthi a chanwyd y clychau.[1]
Codir coelcerthi a llosgir tân gwyllt gyda'r nos drwy wledydd Prydain, yn al mewn gerddi tai preifat neu mewn safleoedd cyhoeddus. Mae mwy a mwy o bobl eisiau cyfyngu'r arfer hwn, gan fod nifer yn cael eu hanafu. Bydd plant a bobl ifainc yn aml yn camddefnyddio'r tân gwyllt a'u taflu at bobl a hyd yn oed yn eu gwthio drwy flwch llythyron tai.
Coelcerthi G’langaea a Guto Ffowc
Ond roedd coelcerthi i'w gweld o hyd ar noson Calan Gaeaf yng nghyfnod William Bulkeley:
Difyr gweld bod yr hen arfer o gynneu coelcerthi ar noswyl G’lan Gaea yn dal ei dir yma yn Llanfechell yn 1736, neu bod yr hen arfer wedi dod yn ei ôl.
Tua 1606 fe basiwyd Deddf gan y Llywodraeth Protestanaidd ffwndamentalaidd oedd mewn grym ar y pryd i wahardd y coelcerthi G’lan Gaea traddodiadol am eu bod wedi cael yr esgus perffaith i wneud hynny. Roedd adlais gref iawn o baganiaeth yn gysylltiedig â G’lan Gaea, a phan ddaliwyd Guto Ffowch, yn ceisio rhoi bom dan Senedd Llundain ar Dachwedd y 5ed fe symudwyd y coelcerthi i’r dyddiad hwnnw, ac mae’n dal felly hyd heddiw.
Cofier mai ar y 5ed Tachwedd 1605 y daliwyd Guto a chafodd ei boenydio’n ddidugaredd cyn ei ddienyddio drwy ei grogi a’i dynnu’n ddarnau yn Ionawr 1606 – ddim ei losgi ar Dachwedd y 5ed fel mae rhai yn meddwl. Yn glyfar iawn o ran Llywodraeth y cyfnod roedd symud y coelcerthi i Dachwedd y 5ed yn cyflawni dau bwrpas: 1) Roedd yn slap ar wyneb arferion paganaidd G’lan Gaea gyda’r un llaw, 2) ac yn slap gyda’r llaw arall ar wyneb y Pabyddion drwy ddathlu ‘achubiaeth’ y deyrnas brotestanaidd oherwydd methiant y ‘Cynllwyn Powdwr Gwn’ yr oedd Guto Ffowc a Phabyddion eraill yn rhan ohono. Dan yr amgylchiadau, mi newidiodd llawer o bobl eu coelcerthi i Dachwedd y 5ed – peth peryg iawn oedd peidio, ar boen cael eich cyhuddo o fod un ai yn bagan neu yn Babydd – mi fyddai gwrachod yn ogystal â Phabyddion yn cael eu llosgi yn y dyddiau duon a pheryglus hynny[4] Yn ôl Wikipedia, mae'r Gwyddelod yn cael coelcerthi ar 31ain Hydref. Ac roedd coelcerthi i’w gweld ar noson G'lanmai hefyd hanner canrif ar ôl cofnod William Bulkeley:
Felly, yn ôl y cofnod hwn roedd yna reswm arall i gynnal coelcerthi ar noson G’langaea – ond beth oedd y fuddugoliaeth dros y Saeson oedd gan Foneddiges Llangollen dan sylw? Dyma ymateb un sydd wedi astudio hanes a sy'n dod o'r ardal:
Lledaenodd noson Guto Ffowc i diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd America ble'i gelwid yn "Ddiwrnod y Pâb" ond ni pharhaodd y traddodiad yno'n hir.