Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Gwrthdystiad cyfredol yn Llundain, y Deyrnas Unedig, yw Occupy London (Saesneg am "Meddiannwch Llundain") sy'n protestio yn erbyn anghydraddoldeb economaidd, anghyfiawnder cymdeithasol, llygredigaeth yn y sector ariannol, bariaeth corfforaethau, a dylanwad cwmnïau a lobïwyr ar lywodraeth. Cychwynnodd ar 15 Hydref 2011 gan efelychu protestiadau Occupy Wall Street yn Ninas Efrog Newydd, yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd dau wersyllfan yn Ninas Llundain, un y tu allan i Eglwys Gadeiriol Sant Paul a'r llall yn Sgwâr Finsbury.
Ar 28 Hydref 2011 cychwynnwyd cais gyfreithiol gan Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Chorfforaeth Dinas Llundain i ddadfeddiannu'r protestwyr y tu allan i'r Eglwys Gadeiriol.[1]