Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Oderzo |
Poblogaeth | 20,016 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Suffolk |
Nawddsant | Titian of Oderzo, Mair Fadlen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Treviso |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 42.35 km² |
Uwch y môr | 13 metr |
Yn ffinio gyda | Fontanelle, Gorgo al Monticano, Ormelle, Ponte di Piave, Chiarano, Mansuè |
Cyfesurynnau | 45.7808°N 12.4928°E |
Cod post | 31046 |
Tref a chymuned (comune) yn nhalaith Treviso, Veneto, yr Eidal ydy Oderzo. Mae'n eistedd yng nghanol y gwastadedd Fenisaidd, tua 66 km i'r gogledd ddwyrain o Fenis. Mae'r afon Monticano, is-afon y Livenza, yn llifo trwy Oderzo.
Mae'r centro storico, neu canol y dref, yn gyfoeth o olion archaeolegol sy'n rhoi mewnwelediad i hanes Oderzo fel croesffordd o bwys yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Mae chwe maesdref neu frazioni yn amgylchynnu Oderzo, ac yn ffurfio hecsagon bron. Yn dechrau yn y gogledd gan ddilyn y cloc, dyma hwy:
|
|
Mae anheddiad cynharaf yr ardal yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn, tua'r 10g CC. Meddianwyd y safle gan y Feneti or 9g CC ymlaen, gan roi iddo ei enw. Mae geirdarddiad y "-terg-" yn Opitergium yn dod o'r enw gwraidd Feniseg sy'n cyfeirio at farchnad (yn debyg i Tergeste, hen enw Trieste). Roedd lleoliad Oderzo ar y gwastadedd Fenisaidd yn ei gwneud yn ddelfrydol fel canolfan masnach.
Mae'n ymddangos yr oedd gan y Feneti o Oderzo berthynas cyfeillgar gyda'r Rhufeiniaid, a Rhufeinigeiddwyd y boblogaeth yn araf. Fe gynyddodd ffordd Via Postumia, a gwblhawyd yn 148 CC, bwysigrwydd Oderzo. Yn ystod y Rhyfel Cartref Rhufeinig, fe ymladdodd Caius Volteius Capito, canwriad a anwyd yn Oderzo, ar ochr Iwl Cesar yn erbyn Pompey.
Yn 48 CC, fe godwyd pwysigrwydd y dref i reng y municipium Rhufeinig a throsglwyddwyd ei drigolion yn aelodau o'r llwyth Rhufeinig, y Papiria. Ymgorfforwyd gwelliannau Augustus Oderzo yn y Regio X o Italia, Venetia et Histria. Roedd yr oes Rufeinig yn dyst i brosiectau adeiladu aruthrol gan gynnwys fforwm, basilica, teml a nifer o dai preifat.
Yn ystod goresgyniadau y "barbariaid", fe anrheithwyd Oderzo gan y Marcomanni (167) tra, yn ôl y chwedl, fe guddiodd Attila drysor ym mhwll y dref. Cipwyd y dref gan yr Ymerodraeth Fysantaidd, a daeth yn sedd a ddeilwyd gan y Bysantiaid hyd ei ddinistriad gan y brenin Lombard, Grimoald yn 667. Fe ddihengodd nifer fawr o'r boblogaeth i dref gyfagos Heraclea, a oedd yn dal dan reolaeth Fysantaidd. Fe basiwyd y rhan fwyaf o'i thir i Iarll Ceneda.
Yn ôl traddodiad, daeth Doge cyntaf Fenis, Paolo Lucio Anafesto, o Oderzo. Tyfodd y dref unwaith eto o gwmpas castell o tua 1000, a gystadlwyd drosti rhwng esgobion Belluno a Ceneda, cymundod Treviso a da Camino ffiwdal (tarddiad enw castell Camino sy'n rhan o Oderzo heddiw) a teuluoedd da Romano tan iddo ddod i feddiant sefydlog Gweriniaeth Fenis yn 1380.
Ychwanegwyd Oderzo at Deyrnas yr Eidal yn 1866. Yn 1917, fe ddifrodwyd y dref yn dilyn yr ymlid Eidalaidd yn Caporetto, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd yng nghanol rhyfel cartref rhwng pyped Almaenaidd Gweriniaeth Salò a'r gwrthsafiad partisan yn 1943. Yn 1945, fe ddieinyddwyd 120 o bobl a'u drwgdybwyd o deyrngarwch i'r Weriniaeth (gweler Cyflafan Oderzo).
Llywodraethwyd y dref gan y Blaid Ddemocrataidd Gristnogol Eidalaidd o 1945 hyd 1993, a mwynhaodd ffyniant economaidd o nôd, a ddenodd mewnfudiad enfawr o ardaloedd de'r Eidal.
Yn frazione Colfrancui, mae'r Mutera dirgel, bryn ffug y Feneti Adriatig, a ddefnyddwyd yn debygol fel arsyllfa.
Mae gan Oderzo gyfeilldref: