Oes Iâ Karoo

Ymestynai Oes Iâ Karoo (mewn glas) dros yr Uwchgyfandir Gondwana.

Digwyddodd Oes Iâ Karoo, un o'r 5 prif Oes Iâ, yn ystod yr Eon Ffanerosöig, a dyma'r ail o'r pump: rhwng 360 a 260 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Daw'r enw o greigiau perthnasol a ddarganfuwyd yn 19C yn ardal Karoo yn Ne Affrica - y creigiau cyntaf i ddangos tystiolaeth o'r Oes Iâ hon.

Yr hyn a achosodd yr Oes Iâ yma oedd platiau tectonig yn creu tir newydd yn ardal a adnabyddir heddiw fel Antartica. Roedd y tir newydd hwn yn aflonyddu ar y llif o ddŵr cynnes yn y cefnfor Panthalassa a'r Môr Paleotethys, ac achosodd hyn, dros gyfnod hir o amser i'r hafau oeri a mwy a mwy o rew ac eira yn y gaeaf: haen ar ben haen nes creu rhewlifau anferthol nes y gorchuddiwyd Gondwana.

Diagram yn dangos y 4 Eon, gyda'r oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaeld ceir y 5 prif Oes Iâ.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]