Enghraifft o'r canlynol | agwedd o hanes, rhannu i gyfnodau hanesyddol |
---|---|
Enw brodorol | Achsenzeit |
Cyfnod o'r 8g i'r 3g CC oedd Oes yr Echelin (Almaeneg: Achsenzeit) pan oedd crefyddau ac athroniaethau newydd yn ymddangos ar draws Ewrasia, gan gael effeithiau mawr ar hanes y byd a datblygiad gwareiddiadau'r Gorllewin a'r Dwyrain. Bathwyd y term gan yr athronydd Almaenig Karl Jaspers yn ei gyfrol Vom Ursprung und Ziel der Geschichte ("Tarddiad ac Amcan Hanes", 1949), i dynnu sylw at yr amryw arweinwyr, traddodiadau, a thestunau crefyddol ac athronyddol a gyd-ddigwyddai yn y cyfnod hwn o'r Henfyd, gan gynnwys Zoroaster, yr Upanishadau, y Bwda, Mahavira, Conffiwsiws, prifiant Daoaeth, yr athronwyr Athenaidd, metaffisegwyr a rhesymegwyr Indiaidd a'r Proffwydi Hebraeg. Yn ôl Jaspers, tro oddi ar feddylfryd lleol a thuag at drosgynoldeb oedd Oes yr Echelin, a osodai sail ysbrydol a deallusol i wareiddiadau Ewrop, yr India, a Tsieina, a fyddai'n parhau am ddwy i dair mil o flynyddoedd, nes i'r Oleuedigaeth, masnach fyd-eang ac imperialaeth darfu ar y patrymau hyn yn sylfaenol.
Tynnai Jaspers sylw at y ffordd i'r moddion newydd ar feddwl ddatblygu'n gyfochrog, gyda nifer o agweddau tebyg, er nad oedd cysylltiadau na chymysgu amlwg rhwng y gwahanol ddiwylliannau hyn. Yn ôl Jaspers, yr oedd y ffigurau crefyddol ac athronyddol yn ymateb i argyfyngau diwylliannol ac ysbrydol tebyg yn eu cymdeithasau priodol, a nodweddir eu hamryw ddysgeidiaethau gan bwyslais newydd ar annibyniaeth a chyfrifoldeb yr unigolyn, egwyddorion moesegol, a'r chwilfa am drosgynoldeb ac ystyr i fywyd. Dadleuai Jaspers taw trobwynt syfrdanol yn hanes y ddynolryw ydy Oes yr Echelin, am iddi nodi trawsnewidiad tuag at yr ymwybyddiaeth hunanystyriol sydd wedi diffinio gwareiddiad y Gorllewin yn enwedig.
Daeth syniad Jaspers yn hynod o ddylanwadol yn y dyniaethau a gwyddorau cymdeithas, ac mae'r term wedi ennill ei phlwyf mewn sawl maes, gan gynnwys cymdeithaseg hanesyddol, cymdeithaseg ddiwylliannol, ac athroniaeth crefydd. Fodd bynnag, mae nifer o hanesyddion wedi beirniadu dilysrwydd a gwerth yr enghraifft hon o gyfnodoli.[1]