Oes yr atom

Atomfa, neu orsaf ynni niwclear.

Y cyfnod hanesyddol a ddilynodd taniad yr arf niwclear cyntaf oedd oes yr atom neu yr oes atomig. Ffrwydrodd y bom atom Trinity ar 16 Gorffennaf 1945 gan Fyddin yr Unol Daleithiau fel rhan o Brosiect Manhattan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd yr adwaith cadwynol niwclear ei dybio gan Leó Szilárd yn 1933, a dangoswyd y fath adwaith yn artiffisial am y tro cyntaf gyda'r adweithydd niwclear Chicago Pile-1 yn Rhagfyr 1942.[1] Dangoswyd bodolaeth a phŵer technoleg niwclear i'r byd wedi i'r Unol Daleithiau ollwng bomiau atom ar Hiroshima a Nagasaki yn Awst 1945, gan ddod â therfyn i'r Ail Ryfel Byd a hebrwng cyfnod newydd i mewn parthed datblygiad technoleg ac ynni, y meddylfryd cymdeithasol-wleidyddol, a chysylltiadau rhyngwladol a rhyfela.

Hyrwyddwyd ynni niwclear fel y prif ddull o yrru cynnydd technolegol a darparu egni'r dyfodol,[2] er i'r oes atomig hefyd codi bwganod rhyfel niwclear, amlhau niwclear, a bygythiad Cyd-ddinistr Sicr yn ystod y Rhyfel Oer. Rhybuddiodd gwyddonwyr y gall rhyfel niwclear neu ddamwain achosi angau a dinistr ar raddfa eang, yr hyn a elwir gaeaf niwclear, a bod arfau niwclear felly yn bygwth bodolaeth y ddynolryw ar y Ddaear.

Wrth i'r diwydiant ffynnu, yn 1973 rhagfynegodd Comisiwn Ynni Atomig yr Unol Daleithiau byddai mil o adweithyddion niwclear yn cynhyrchu trydan ar gyfer cartrefi a busnesau Americanaidd erbyn dechrau'r 21g. Er addewid "y breuddwyd niwclear", perai nifer o broblemau cymdeithasol gan dechnoleg niwclear, gan gynnwys y ras arfau niwclear, toddiadau atomfeydd, cael gwared ar wastraff niwclear, a glanhau a digomisiynu atomfeydd.[3] Wedi 1973, gostyngodd orchmynion am adweithyddion o ganlyniad i lai o alw am drydan a chynnydd mewn costau'r diwydiant niwclear. Cafodd nifer o atomfeydd arfaethedig ar draws UDA eu diddymu.[4]

Yn niwedd y 1970au a'r 1980au, cafodd ynni niwclear ei daro gan drafferthion economaidd yn ogystal â gwrthwynebiad gan y mudiad gwrth-niwclear.[5] Daeth nifer i'w weld yn fodd peryglus o gynhyrchu pŵer, pryderon a gawsant eu gwaethygu gan ddamwain Three Mile Island yn 1979 a thrychineb Chernobyl yn 1986.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Holl, Jack (1997). Argonne National Laboratory, 1946–96. University of Illinois Press. ISBN 0-252-02341-2.
  2. Benjamin K. Sovacool (2011). Contesting the Future of Nuclear Power: A Critical Global Assessment of Atomic Energy, World Scientific, t. 259.
  3. John Byrne and Steven M. Hoffman (1996). Governing the Atom: The Politics of Risk, Transaction Publishers, t. 99.
  4. Stephanie Cooke (2009). In Mortal Hands: A Cautionary History of the Nuclear Age, Black Inc., t. 283.
  5. "Nuclear Follies", 11 Chwefror, 1985 Forbes.