Math | safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Neanderthal ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2271°N 3.4763°W ![]() |
![]() | |
Ogof ger pentrefan Bontnewydd yng nghymuned Cefn Meiriadog yn nyffryn Elwy yn Sir Ddinbych yw Ogof Bontnewydd (Ogof Pontnewydd, neu Bont Newydd) (Cyfeirnod OS: SJ01527102). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear Cymru gyda un dant yn mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Mae o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennog Coedydd ac Ogofâu Elwy a Meirchion. Mae Ogof Bontnewydd ac Ogof Cefn (sydd tua 300 metr i'r gorllewin, wedi'u cofrestru'n Henebion.[1] Tua 7 milltir i'r de-ddwyrain, yn Nhremeirchion mae Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno.
Carreg galchfaen yw'r ogof ac nid ydyw ar agor i'r cyhoedd, fel arfer.[2] Yn wir, dim ond un man arall drwy wledydd Prydain sydd ag olion dyn mor gynnar a hyn, sef Eartham (Sussex).[3][4] Mae'n perthyn i Hen Oes y Cerrig (neu Paleolithig).
Bu Stephen Aldhouse-Green o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên Neanderthals cynnar. Cafwyd hyd i 19 dant yn perthyn i blant ieuanc ac oedolion: un bachgen 8 a hanner oed, un ferch 9 oed bachgen 11 oed, bachgen arall 11-16 oed ac oedolyn. Gellir dehongli'r gweddillion mewn modd wahanol ac fel uchafswm mae'n bosibl fod y niferoedd cymaint â naw plentyn a saith oedolyn. Credir iddynt fyw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Y dechneg a ddefnyddiwyd i ddyddio oedran y gwrthrychau oedd y gyfres dyddio carbon drwy iwraniwm a Thermoluminescence (TL) ar y llawr stalagmitig.
Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt, 1,282 o arteffactau carreg a 4,822 asgwrn. Daeth yr esgyrn hyn o lewod, rhinoseros, ceirw, eirth a llewpad; mae'r esgyrn llewpad yn hynod brin a dim ond mewn un man arall sef Ogof Bleadon yng Ngwlad yr Haf mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain.[5] Darganfyddiad arall yma oedd penglog arth oedd yn dyddio i gyfnod diweddarach, tua 28,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd y Neanderthaliaid yn un gangen o goeden esblygol yr hil ddynol a chredir i'r gangen ddod i ben oddeutu 36,000 o flynyddoedd yn ôl. Nid esblygodd yr hil ddynol o'r Neanderthaliaid ond yr un oedd eu cyndeidiau hwy â rhywogaeth yr hil ddynol. Roedd yr oedolyn Neanderthalaidd yn gymharol fyr a thew a genau mawr sgwâr a dannedd sy'n fwy na'n rhai ni heddiw. Gwyddom mai perthyn i'r Neanderthal mae'r dannedd gan fod pob un nodwedd arbennig sef tawrodontiaeth: dannedd ac iddyn ofod neu geudodau bywyn mawr a gwreiddiau llai na'r arfer. Mae hyn yn nodweddiadol o ddannedd y Neanderthal.[6]