Olaf III Guthfrithson | |
---|---|
Ganwyd | 9 g |
Bu farw | 941 Efrog |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | brenin Northumbria |
Tad | Gofraid ua Ímair |
Plant | Cammán mac Amlaíb |
Llinach | Uí Ímair |
Brenin Teyrnas Dulyn o 934 hyd 941 oedd Olaf III Guthfrithson (Gwyddeleg: Amlaíb mac Gofraid) (bu farw 941).
Roedd yn aelod o deulu brenhinol Teyrnas Dulyn, yr Uí Ímair, ac yn fab i'r brenin Gofraid ua Ímair, a fu'n frenin Dulyn a Jorvik (Efrog heddiw) hyd nes i Athelstan, brenin Lloegr gipio Efrog oddi arno yn 927.
Priododd Olaf a merch Cystennin II, brenin yr Alban, a gwnawth gynghrair ag Owain I, brenin Ystrad Clud. Yn 937, Olaf oedd arweinydd byddin y tri cyngheiriad yn erbyn Athelstan ym Mrwydr Brunanburh, ond gorchfygwyd ef gan Athelstan.
Wedi marwolaeth Athelstan yn 939, llwyddodd Olaf i adennill Jorvik oddi ar ei olynydd, Edmund, gan ddod a Northumbria a rhan o Mersia dan ei awdurdod. Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac olynwyd ef gan Olaf Cuaran.
Rhagflaenydd: Gofraid ua Ímair |
Brenin Dulyn 934–941 |
Olynydd: Sigtrygg (Sihtric) |
Rhagflaenydd: Athelstan |
Brenin Northumbria 939–941 |
Olynydd: Amlaíb Cuaran |