Oligopoli

Rheolaeth ar farchnad economaidd gan grŵp bychan o fusnesau yw oligopoli. Mae'n gorwedd hanner ffordd rhwng monopoli a marchnad rydd berffaith. Mae'r rhan fwyaf o farchnadoedd rhydd y byd yn oligopolïau mewn ffaith os nad gair. Yng ngwledydd Prydain er enghraifft mae llond dwrn o gwmnïau mawr yn rheoli'r sector archfarchnadau. Y term cyfatebol mewn gwleidyddiaeth yw oligarchiaeth.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.