Ymchwiliad yr heddlu i gamdriniaeth rhywiol honedig, yn benodol camdriniaeth rhywiol o blant, gan y seren deledu Seisnig Jimmy Savile (a fu farw yn 2011) ac eraill ydy Operation Yewtree. Dechreuodd yr ymchwiliad gan Heddlu Dinas Llundain ym mis Hydref 2012. Ar ôl cyfnod o asesu, dechreuwyd ar ymchwiliad troseddol llawn, yn cynnwys ymchiliadau i bobl sydd dal yn fyw, yn ogystal â Savile.
Ar 19 Hydref 2012, cyhoeddodd Heddlu Dinas Llundain fod dros 400 o linynnau ymchwilio gwahanol wedi'u hasesu a thros 200 o ddioddefwyr posib wedi'u hadnabod. Erbyn 19 Rhagfyr, roedd wyth o bobl wedi'u cwestiynu; cyfanswm y nifer y dioddefwyr honedig oedd 589, gyda 450 ohonynt yn honni iddynt gael eu camdrin gan Savile. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddechrau 2013.
Darlledwyd rhaglen ddogfen gan ITV1, Exposure: The Other Side of Jimmy Savile, ar 3 Hydref 2012. Roedd y rhaglen yn cynnwys sawl honiad wrth fenywod a ddywedodd iddynt gael eu camdrin yn rhywiol gan Savile pan oeddent yn arddegwyr. Dywedasant iddo gael mynediad iddynt trwy raglenni teledu a'i waith elusennol.[1] Ar ôl y darllediad, daeth nifer o bobl eraill i'r fei i wneud honiadau ynglŷn ag ymddygiad Savile tuag at bobl ifanc, gan gynnwys camdriniaeth rywiol a ddigwyddodd ar dir y BBC ac mewn ysbytai lle'r oedd gan Savile fynediad iddynt.[2]
Arestiwyd y cyn-seren bop a'r troseddwr rhyw euogfarnedig Gary Glitter fel rhan o'r ymchwiliadau i mewn i fywyd Savile ar 8 Hydref 2012;[3][4][5] cafodd ei gwestiynu mewn gorsaf heddlu yn Llundain am dros naw awr cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Rhagfyr.[5] Arestiwyd y digrifwr Freddie Starr ar 1 Tachwedd ar amheuaeth o droseddau cysylltiedig a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth trannoeth.[6][7] Ar 11 Tachwedd, arestiwyd cyn-gynhyrchydd gyda'r BBC Wilfred De'ath, a gafodd ei gyfweld ar gyfer rhaglen ddogfen Exposure yng Nghaergrawnt ar amheuaeth o droseddau rhywiol cysylltiedig; cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn hwyrach,[8] gan wadu'r honiadau a wnaed yn ei erbyn.[9]
Arestiwyd pedwerydd dyn, y DJ Dave Lee Travis, yn Swydd Bedford ar 15 Tachwedd a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn hwyrach. Dywedodd yr heddlu nad oedd yr honiadau yn ei erbyn ef yn gysylltiedig â Savile, a dywedodd Travis y cafodd ei arestio am faterion nad oedd yn ymwneud â phlant.[10] Ar ddiwedd mis Tachwedd 2012 cwestiynwyd dyn anhysbys yn ei 80au gan Heddlu Dinas Llundain a chwiliwyd ei gartref yn Berkshire, ond ni chafodd ei arestio.[11] Ar 6 Rhagfyr, adroddodd y papurau newydd fod y swyddog cyhoeddusrwydd Max Clifford wedi cael ei arestio fel rhan o Operation Yewtree, ar amheuaeth o droseddau rhywiol;[12] pan gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, gwadodd yr hyn a ddisgrifioff fel yr "honiadau niweidiol a chwbl anwireddus".[13] Arestiwyd dyn anhysbys yn ei 60au yn Llundain ar 10 Rhagfyr,[14] ac wythfed dyn, cyn-gynhyrchydd radio gyda'r BBC, Ted Beston, ar 19 Rhagfyr.[15] Ar 2 Ionawr 2013, arestiwyd y digrifwr Jim Davidson, a dyn anhysbys arall yn ei 50au.[16]