Orderic Vitalis

Orderic Vitalis
Ganwyd16 Chwefror 1075 Edit this on Wikidata
Atcham Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1142 Edit this on Wikidata
Abaty Saint-Évroult Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr, Dugiaeth Normandi Edit this on Wikidata
Galwedigaethcroniclwr, hanesydd, llenor, oblate, mynach, subdeacon, diacon, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEcclesiastical history Edit this on Wikidata
Coflech i Orderic yn Abaty Saint-Évroult

Croniclwr Eingl-Normanaidd oedd Orderic Vitalis (10751143). Cyfeirir ato hefyd fel Ordericus Vitalis. Mae ei lyfr yr Historiae Ecclesiasticae yn cael ei ystyried yn un o'r ffynonellau pwysicaf am gyfnod y Normaniaid yng ngwledydd Prydain a Ffrainc.

Bywyd a gwaith

[golygu | golygu cod]

Ganed Orderic yn Amwythig yn 1075. Norman oedd ei dad Odelerius, clerigwr yng ngwasanaeth Roger, Iarll Amwythig (Roger o Drefaldwyn), a Saesnes oedd ei fam yn ôl pob tebyg. Bu'n fyw yn Swydd Amwythig hyd ei fod yn ddeg oed pan gafodd ei anfon i fod yn fynach yn Abaty Saint-Évroult, un o fynachlogydd y Benedictiaid yn Ffrainc.[1]

Yn Saint-Évroult lluniodd yr Historiae Ecclesiasticae rhwng y blynyddoedd 1123 a 1141, a hwn oedd gwaith mawr ei oes. Mae'n adrodd hanes y byd Gorllewinol o gychwyn y cyfnod Cristnogol hyd oes yr awdur, ond caiff hanes y Normaniaid yng nghyfnod yr awdur y sylw bennaf. Am ei fod yn frodor o'r Gororau mae hanes arglwyddir'r Mers yn cael sylw arbennig ac felly mae ei lyfr yn ffynhonnell bwysig i haneswyr Cymru. Ceir hanesion ganddo am arweinwyr Cymreig, yn cynnwys Gruffudd ap Cynan, Rhys ap Tewdwr, Bleddyn ap Cynfyn a dau o esgobion Bangor, ac arweinwyr Normanaidd, megis Robert o Ruddlan, Roger, Iarll Amwythig a Walter o Hereford, Arglwydd Y Fenni.[2]

Un o'i benodau mwyaf bywiog yw ei ddisgrifiad o ladd Robert o Ruddlan yn 1088. Yn ôl Orderic, roedd Robert yn cysgu ganol dydd yn ei gastell yn Neganwy pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw Pen y Gogarth a'u bod yn ysbeilio ei diroedd. Dywed Orderic mai Grithfridus, rex Guallorum[3] (Gruffudd, Brenin Cymru) oedd yn eu harwain, sef Gruffudd ap Cynan yn ôl pob tebyg. Gyrrodd Robert negeseuwyr i ymgynnull ei filwyr, ac aeth ef ei hun i Ben y Gogarth, lle gwelodd fod y llanw'n codi a'r Cymry ar fin hwylio ymaith gyda'i hysbail. Rhuthrodd Robert i lawr y llechwedd mewn cynddaredd, a dim ond ei gludydd arfau yn ei ddilyn. Lladdwyd ef a gwaywffyn, a hwyliodd y Cymry ymaith gyda'i ben ynghlwm wrth fast un o'r llongau.

Beirniad moesol

[golygu | golygu cod]

Er ei fod yn Norman ei hun, mae Orderic yn barod i gollfarnu rhai o arweinwyr y Normaniaid yng Nghymru am eu cymeriad ffrynig a'u gweithgaroedd creulon. Mae'n beirniadu Robert o Ruddlan yn hallt am ei driniaeth greulon o'r Cymry:

Nid yw'n iawn fod Cristnogion yn gormesu eu brodyr, sydd wedi cael eu haileni yn ffydd Crist trwy fedydd, fel hyn.[4]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Marjorie Chibnall (cyf), The Ecclesiastical History of Orderic Vitalis, 6 cyfrol, Oxford Medieval Texts, 1968-1980, ISBN 0-19-820220-2

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. David Walker, The Norman Conquerors (Abertawe, 1977), tud. 23.
  2. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tud. cxviii.
  3. Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tud. cxviii.
  4. Historiae Ecclesiasticae, dyfyniad gan David Walker, The Norman Conquerors, tud. 28.