Rhywogaethau di-ddynol yw organebau model sy'n cael eu defnyddio er mwyn deall ffenomenau biolegol, gan ddisgwyl y bydd darganfyddiadau wedi eu gwneud mewn organebau model yn cyfateb at organebau eraill.[1] Gall gwyddonwyr ddefnyddio organebau model fel modelau in vivo, ac maen nhw'n arbennig o ddefnyddiol er mwyn astudio afiechydondynol pan fo arbrofion ar fodau dynol yn anymarferol neu'n anfoesol.[2] Mae hyn yn bosib gan fod pob organeb byw yn rhannu cyd-hynafiad a gan fod prosesau metabolaidd a datblygiadol wedi eu cadw yn ystod esblygiad.[3]
Gall astudio organebau model roi llawer o wybodaeth, ond rhaid cymryd gofal tra'n defnyddio'r wybodaeth er mwyn deall organebau eraill.[4]
Mewn ymchwil ar glefydau dynol, gall defnyddio organebau model arwain at ddealltwriaeth o brosesau'r clefyd heb orfod niweidio bodau dynol. Fel arfer, rhaid i'r organeb sydd wedi ei ddewis fodloni cywerthedd tacsonomaidd at fodau dynol er mwyn gallu ymateb i'r clefyd neu driniaeth mewn ffordd debyg i fodau dynol. Er nad yw'r ymateb yn siwr o fod yr un fath rhwng organebau model a bodau dynol, mae llawer o gyffuriau a thriniaethau ar cyfer clefydau dynol wedi eu canfod gan ddefnyddio organebau model.[5][6] Mae tri prif fath o : homologous, isomorphic and predictive. Homologous animals have the same causes, symptoms and treatment options as would humans who have the same disease. Isomorphic animals share the same symptoms and treatments. Predictive models are similar to a particular human disease in only a couple of aspects, but are useful in isolating and making predictio
Mae gwyddonwyr wedi hen ddefnyddio anifeiliaid mewn ymchwil. Rhai o'r cyntaf i wneud hynny oedd Aristotle (384–322 CC) ac Erasistratus (304–258 CC) yng Ngroeg yr Henfyd.[7] Yn y 18G a'r 19G, defnyddiodd Antoine Lavoisierfochyn cwta i ddangos mai hylosgiad yw sail resbiradu, a profodd Louis Pasteur ei ddamcaniaeth germ gan ddefnyddio anthracs mewn defaid.
Mae gwaith ar anifeiliaid model wedi bod yn rhan bwysig o lawer o'r darganfyddiadau mewn meddygaeth fodern.[8][9][10] Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sylfaenol ym meysydd ffisioleg a biocemeg wedi dod o astudio anifeiliaid, ynghyd â llawer o'r hyn sydd yn wybod am niwrowyddoniaeth a heintiau.[11][12] Er enghraifft, o ganlyniad i arbrofion ar anifeiliaid model, mae polio bron wedi ei ddileu ac mae modd trawblannu organau rhwng pobl.[8][13] Rhwng 1910 a 1927, dangosodd arbrofion Thomas Hunt Morgan ar y pry ffrwythau Drosophila melanogaster mai cromosomau sy'n gyfrifol am etifeddiaeth genynau.[14][15] O ganlyniad, daeth Drosophila yn un o'r organebau model mwyaf cyffredin mewn bioleg,[16] a dywedodd y gwyddonydd Eric Kandel fod darganfyddiadau Morgan wedi gwneud bioleg yn wyddor arbrofol am y tro cyntaf.[17] Mae D. melanogaster yn parhau i fod yn un o'r organebau ewcaryotig a ddefnyddir fwyaf mewn labordai. Yn yr un cyfnod, arweiniodd gwaith William Ernest Castle ac Abbie Lathrop ar lygod at greu'r llinach llygod DBA ("dilute brown and non-agouti").[18][19] Mae llygod wedi eu defnyddio ers hynny mewn llawer o arbrofion a arweiniodd at ddarganfyddiadau pwysig yn yr 20G a'r 21G.[20]
Ceir organebau model o bob un o dri pharth bywyd, yn ogystal â firysau. Yr organeb model procaryotig a ddefnyddir fwyaf aml yw Escherichia coli (E. coli), sydd wedi ei ddefnyddio ers dros 60 mlynedd. Mae'n facteriwm gram-negative cyffredin sy'n hawdd i'w dyfu ac yn rhad i'w ddefnyddio mewn labordy. Dyma'r organeb mwyaf cyffredin mewn gwaith ar eneteg foleciwlaidd, ac mae hefyd yn rywogaeth bwysig ym meysydd biotechnoleg a microfioleg.[21]
Mae modelau ewcaryotig syml yn cynnwys burum pobi (Saccharomyces cerevisiae) a burum ymhollti (Schizosaccharomyces pombe), sydd o'u dau yn rhannu nodweddiol â chelloedd uwch, gan gynnwys rhai mewn bodau dynol. Er enghraifft, daw'r wybodaeth am lawer o'r genynau cellraniad sy'n bwysig mewn canser o astudio burum. Defnyddir yr alga gwyrdd ungell Chlamydomonas reinhardtii er mwyn deall photosynthesis a symudoldeb ac mae llawer o adnoddau wedi eu datblygu i'w astudio.[22] Mae Dictyostelium discoideum yn organeb cyffredin arall mewn bioleg foleciwlaidd a geneteg er mwyn deall cyfathrebu rhwng celloedd, gwahanrediad celloedd a marwolaeth celloedd rhaglenedig.
Ymysg anifeiliaid heb asgwrn cefn, defnyddir y pry ffrwythau Drosophila melanogaster yn aml iawn ym meysydd geneteg a bioleg datblygiad. Maen nhw'n hawdd i'w magu mewn labordy, gyda llawer o genedlaethau mewn amser byr, ffrwythlondeb uchel, nifer bychan o gromosomau a modd hawdd o edrych ar fwtaniadau. Mae'r llyngyren gronCaenorhabditis elegans hefyd yn organeb model ar gyfer deall sut mae genynnau yn rheoli datblygiad a ffisioleg.[23][24] Dyma'r organeb amlgellog cyntaf i'w enom cyntaf gael ei ddilyniannu ac i'w system weirio niwron gael ei fapio yn llwyr.[25][26]
Ym myd botaneg, Arabidopsis thaliana yw'r organeb model mwyaf poblogaidd oherwydd ei faint bychan, cenedlaethau byr a'r casgliad enfawr o fwtaniadau sydd wedi eu creu.[27]A. thaliana oedd y planhigyn cyntaf i'w enom gael ei ddilyniannu.[27] Mae planhigion model eraill yn cynnwys trwyn y llo (Antirrhinum majus) ar gyfer astudio datblygiad a lliw blodau[28], maglys pigog (Medicago truncatula) a Lotus japonicus ar gyfer astudio nodylau gwraidd[29][30], a breichwellt unflwydd (Brachypodium distachyon) ar gyfer astudio nodweddion mewn gwair[31].
Mae modelau pwysig mewn fertebratau yn cynnwys moch cwta (Cavia porcellus); fe'i defnyddiwyd gan Robert Koch ar gyfer astudio heintiau, ac mae'r enw Saesneg guinea pig bellach yn ddiarhebol o anifail labordy. Fodd bynnag, mae anifeiliaid eraill yn cael eu defnyddio yn fwy aml na moch cwta erbyn heddiw. Y model clasurol ar gyfer astudio fertebratau erbyn hyn yw'r llygoden (Mus musculus). Mae llawer o linachau wedi mewnfridio wedi eu creu, yn ogystal â rhai wedi eu dethol yn ôl nodweddion arbennig, megis maint corff, gordewdra a chyhyrogrwydd.[32]
Mae'r llygoden fawr (Rattus norvegicus) hefyd yn fodel defnyddiol, yn enwedig mewn gwenwyneg a niwroleg oherwydd maint mwy y corff a'r organnau, a defnyddir wyau ac embryonau'r llyffantod Xenopus tropicalis a Xenopus laevis yn aml mewn bioleg datblygiad, bioleg cell, gwenwyneg a niwrowyddoniaeth.[33][34] Mae gan y pysgodyn rhesog (Danio rerio) gorff sydd bron yn gwbl dryloyw yn gynnar yn ei ddatblgiad, gan alluogi ffordd unigryw o edrych ar anatomeg mewnol anifail. Oherwydd hyn, mae D. rerio yn organeb model pwysig mewn bioleg datblygiad a gwenwyneg.[35]
↑Hedrich, Hans, gol. (2004-08-21). "The house mouse as a laboratory model: a historical perspective". The Laboratory Mouse. Elsevier Science. ISBN9780080542539.
↑"Bacteria". Microbiologyonline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-27. Cyrchwyd 27 February 2014.
↑Kolb, E. M.; Rezende, E. L.; Holness, L.; Radtke, A.; Lee, S. K.; Obenaus, A.; Garland Jr, T. (2013). "Mice selectively bred for high voluntary wheel running have larger midbrains: support for the mosaic model of brain evolution". Journal of Experimental Biology216 (3): 515–523. doi:10.1242/jeb.076000. PMID23325861.