Mudiad cudd terfysgol asgell dde o ymsefydlwyr Ffrengig yn Algeria yn y 1960au oedd yr Organisation de l'Armée secrète (OAS; hefyd Organisation armée secrète).
Cafodd ei sefydlu yn 1961 gan y Cadfridog Raoul Salan i wrthwynebu unrhyw symudiad tuag at roi annibyniaeth i Algeria ar Ffrainc. Cyflawnodd gyfres o ymosodiadau terfysgol a llofruddiaethau nid yn unig yn Algeria ond yn Ffrainc ei hun. Mae rhai yn credu bod yr OAS wedi mwynhau cefnogaeth ar lefel uchel iawn o fewn y sefydliad Ffrengig a bod llawer o wybodaeth heb ei datguddio eto.
Ei weithred mwyaf adnabyddus oedd ei ymgais i lofruddio Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ym mis Medi 1961, am ei fod ar fin dod i gytyndeb â'r cenedlaetholwyr Algeriaidd ac yn barod i ildio annibyniaeth iddynt (cytunwyd telerau annibyniaeth ym Mawrth, 1962. Cafodd yr arweinydd Salan ei arestio yn Ebrill 1962 a'i ddeddfrydu; treuliodd gwta chwe mlynedd (1962-68) yn y carchar am ei droseddau. Byr fu parhad yr OAS yn sgîl hynny.
Mae'r nofel gan Frederick Forsyth, The Day of the Jackal, a'r ffilm o'r un enw (1973), yn seiliedig ar ddigwyddiadau Medi 1961.