Osbert Lancaster | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1908 Llundain |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1986 Chelsea |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cartwnydd, dylunydd theatr, beirniad celf |
Cyflogwr | |
Priod | Karen Harris |
Plant | William Lancaster |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant |
Darlunydd, dylunydd llwyfan, ac awdur o Loegr oedd Syr Osbert Lancaster (4 Awst 1908 – 27 Gorffennaf 1986) sydd yn nodedig am ei gartwnau a gyhoeddwyd yn y Daily Express ac am ei ysgrifeniadau a lluniau ar bwnc pensaernïaeth.
Ganed yn Llundain, yn unig blentyn i Robert Lancaster a'i wraig Clare Bracebridge Manger. Bu farw Robert ym Mrwydr y Somme ym 1916. Aeth Osbert i ysgol baratoi Saint Ronan's yn Worthing, Sussex, ac yna i Ysgol Charterhouse yn Godalming, Surrey. Cafodd ei dderbyn i astudio'r Saesneg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ym 1926, ac yno enillodd enw am wisgo dillad sgwarog, monocl, a mwstás mawr. Cyfrannodd gartwnau i gylchgrawn y brifysgol, Cherwell, a magodd gyfeillgarwch â'r bardd ifanc John Betjeman, y ddau ohonynt yn hoff iawn o bensaernïaeth Fictoraidd. Myfyriwr chwithig oedd Lancaster, ac wedi iddo astudio am flwyddyn ychwanegol derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau, o'r pedwerydd dosbarth, ym 1930. Ceisiodd am yrfa gyfreithiol ond methodd yr arholiadau a ni chafodd ei alw i'r Bar.[1]
Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade, Prifysgol Llundain, ac enillodd dystysgrifau mewn paentio a dylunio llwyfan.[2] Yno cyfarfu â Karen Elizabeth Harris, a phriodasant ym 1933. Cawsant un mab ac un ferch.[1] Cyfrannodd Lancaster yn rheolaidd at cyfnodolyn yr Architectural Review, gan ddarlunio'i golofn gyda llinluniau ei hun. Cesglid rhai o'r rheiny yn ei lyfr cyntaf, y casgliad dychanol Progress at Pelvis Bay (1936), sydd yn olrhain datblygiadau pensaernïol mewn pentref glan môr nodweddiadol. Ymdrinia yn ffraeth â hanes pensaernïaeth Lloegr yn Pillar to Post (1938) ac â dylunio mewnol yn Homes, Sweet Homes (1939). Cyfunwyd y gweithiau hyn, ynghyd â deunydd ar bwnc pensaernïaeth a dylunio o'r Unol Daleithiau, yn y gyfrol Here, of All Places (1958).[2]
Ymddangosodd ei fân-gartŵn cyntaf i'r Daily Express ar 1 Ionawr 1939, yng ngholofn glecs "William Hickey". Lluniodd Lancaster ryw 10,000 o gartwnau ar gyfer y papur newydd hwnnw dros y ddeugain mlynedd nesaf, ac argraffwyd nifer ohonynt ar y dudalen flaen. Ymddengys cymeriadau rheolaidd yn ei gartwnau sydd yn dychanu, mewn modd teg yn hytrach na chwerw, agweddau a ffasiynau'r dosbarthiadau uchaf a chanol; yn eu plith y clerigwyr Canon Fontwater a Father O'Bubblegum, y wraig Dorïaidd Mrs Frogmarch, a Maudie, Iarlles Littlehampton a'i gŵr Willy. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939 ymunodd Lancaster â swyddfa sensoriaeth y wasg. Cafodd ei anfon i Wlad Groeg o 1944 i 1946 fel swyddog y wasg gan y Swyddfa Dramor. Ysgrifennodd y llyfr Classical Landscape with Figures (1947) ar sail ei brofiadau yng Ngroeg.[1]
Ym 1951 gweithiodd Osbert Lancaster gyda'r arlunydd John Piper ar gyfer Gŵyl Prydain. Ar gyngor Piper, dyluniodd Lancaster ei set gyntaf i'r llwyfan, ar gyfer y bale comig Pineapple Poll yn Theatr Sadler's Wells ym Mawrth 1951. Dyluniai setiau a gwisgoedd ar gyfer dramâu, bales, ac operâu am ugain mlynedd, gan gynnwys sawl cynhyrchiad i Ŵyl Glyndebourne.[1][2] Symudodd Lancaster a'i deulu i Leicester House, plasty yn null y Rhaglywiaeth yn Henley-on-Thames. Bu farw Karen Lancaster ym 1964, ac ail-briododd Osbert â'r newyddiadurwraig Anne Eleanor Scott-James (1913–2009) ym 1967.[1]
Ysgrifennodd Lancaster ddwy gyfrol o'i gofiannau: All Done from Memory (1953) a With an Eye to the Future (1967).[2] Cafodd ei benodi'n CBE ym 1953 a'i urddo'n farchog ym 1975. Bu farw Syr Osbert Lancaster yn Chelsea, Llundain, yn 77 oed, a chafodd ei gladdu yn West Winch, Norfolk.[1] Cyhoeddwyd y casgliad The Essential Osbert Lancaster (1988) wedi ei farwolaeth.