Ossian yw awdur honedig cylch o gerddi a gyhoeddwyd gan y bardd Albanaidd James Macpherson. Yn ôl Macpherson roedd wedi'u cyfieithu o'r Gaeleg ar ôl eu darganfod mewn hen ffynonellau. Mae Ossian yn seiliedig ar Oisín, mab Finn neu Fionn mac Cumhaill ym mytholeg Iwerddon.
Yn 1760 cyhoeddodd Macpherson Fragments of Ancient Poetry collected in the Highlands of Scotland, ac yn 1761 honnodd ei fod wedi darganfod barddoniaeth epig am yr arwr Fingal, wedi ei ysgrifennu gan Ossian. Cyhoeddodd "gyfieithiadau" o'r deunydd yma dros y blynyddoedd nesaf, gan orffen gyda chasgliad cyflawn The Works of Ossian, yn 1765. Y gerdd enwocaf yw Fingal (1762). Daeth y cerddi i enwogrwydd rhyngwladol, gan ddylanwadu ar awduron megis Walter Scott, J.W. von Goethe a Johann Gottfried Herder. Cyfansoddodd Franz Schubert nifer o Lieder ar eiriau o gerddi Ossian. Roedd y cerddi yma yn elfen bwysig yn y cynnydd mewn diddordeb yn y Celtiaid yn y cyfnod yma.
Cododd dadl ynghylch dilysrwydd y farddoniaeth yn syth, a pharhaodd hyd ddechrau'r 20g. Barn Thomson yn 1952 oedd bod Macpherson wedi casglu baledi Gaeleg am Ossian, ond ei fod wedi eu haddasu i apelio at ei oes ei hun ac wedi rhoi llawer o ddeunydd wedi ei gyfansoddi ganddo ef ei hun i mewn.