Calophasia lunula | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Calophasia |
Rhywogaeth: | C. lunula |
Enw deuenwol | |
Calophasia lunula (Hufnagel, 1766) |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw pali llin y llyffant, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy pali llin y llyffant; yr enw Saesneg yw Toadflax Brocade, a'r enw gwyddonol yw Calophasia lunula.[1][2] Mae'n gynhenid o Ewrop ond wedi'i fewnforio, bellach i wledydd megis Canada.
Caiff ei ddefnyddio'n helaeth i reoli pla. Mae'r oedolyn yn eitha blewog, tua 12 mm o hyd. Mae'r fenyw'n dodwy 30 - 80 o wyau ar y planhigyn toadflax ac wedi tua phythefnos, daw'r siani flewog allan o'i phlisg. Mae'n bwrw ei chroen tua pum gwaith yn ystod mis cyntaf ei bywyd. Ar ei eithaf, mae'n 4 cm o hyd. Mae'n cysgu'r gaeaf mewn cwd grisialis wedi'i wneud o blanhigion wedi'u cnoi.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r pali llin y llyffant yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.