Sium latifolium | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Sium |
Enw deuenwol | |
Sium latifolium Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol ydy Panasen-y-dŵr lydanddail sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Sium latifolium a'r enw Saesneg yw Greater water-parsnip. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pannas y dŵr llydanddail, Dwfr-foronen mwyaf, Dyfr-foronen, Dyfr-foronen llydanddail, Moronen y dŵr llydanddail, Pannas y dŵr mwyaf a Panasen y dŵr.
Mae'n frodorol o Ewrop, Kazakhstan, a Siberia.[1]
Gwlyptir yw ei gynefin ee rhostir neu wernen, glannau llynnoedd a gall fyw yn y dŵr. Mae'n llysieuyn lluosflwydd gyda bonyn gwag a rhychiog a all dyfu i uchder o ddwy fetr. Mae'r dail oddeutu 30 cm o hyd a cheir blodau gwyn.[2]