Math | parc |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Hollywood |
Sir | Los Angeles |
Gwlad | UDA |
Yn ffinio gyda | Hollywood Reservoir |
Cyfesurynnau | 34.1333°N 118.3°W |
Mae Parc Griffith yn barc mawr ym mhen dwyreiniol Mynyddoedd Santa Monica, yng nghymdogaeth Los Feliz yn Los Angeles, Califfornia. Mae'r parc 4,310 acr (1,740 ha), un o'r parciau dinas fwyaf yng Ngogledd America.[1] Hwn yw'r parc dinas ail-fwyaf yng Nghaliffornia, ar ôl i 'Mission Trails' yn San Diego, a'r 11eg parc mwyaf sy'n berchen i'r wlad yn yr Unol Daleithiau.[2] Cyfeiriwyd ato hefyd fel Parc Canolog Los Angeles, ond y mae'n llawer mwy, yn fwy gwyllt, ac yn arw na'i gymar yn Ninas Efrog Newydd.[3][4][5]
Ar ôl bod yn llwyddiannus wrth fuddsoddi mewn mwyngloddio, prynodd y diwydiannwr Cymraeg-Americanaidd Griffith J. Griffith y Rancho Los Feliz ym 1882. Cychwynnodd fferm estrys yno. Er ei fod yn gyffredin i ddefnyddio plu estrys er mwyn gwneud hetiau menywod ar ddiwedd y 19eg ganrif, prif bwrpas Griffith oedd denu trigolion Los Angeles i’w eiddo cyfagos. Ar ôl bod yn llwyddiannus yn denu trigolion i'w eiddo, rhoddodd Griffith 3,015 acr (1,220 ha) i ddinas Los Angeles ar Ragfyr 16, 1896.[6]
Cafodd Griffith ei ddyfarnu'n euog o saethu ei wraig mewn digwyddiad ym 1903.[7] Pan gafodd ei ryddhau o'r carchar, ceisiodd ariannu adeiladu amffitheatr, arsyllfa, planetariwm, a gwersyll merched a gwersyll bechgyn yn y parc. Fodd bynnag, cafodd ei enw da yn y ddinas ei lygru gan ei drosedd, felly gwrthododd y ddinas ei arian.
Ym 1912, dynododd Griffith 100 acr (40 ha) o'r parc, yn ei gornel ogledd-ddwyreiniol ar hyd Afon Los Angeles, i'w gael ei ddefnyddio i "wneud rhywbeth er mwyn datblygu awyrennau". Erodrom Parc Griffith oedd y canlyniad. Cafodd ei defnyddio gan arloeswyr hedfan megis Glenn L. Martin a Silas Christoffersen, a chafodd yr erodrom ei roi i Wasanaeth Awyr y Gwarchodlu Cenedlaethol. Roedd y rhedfa 600m yn parhau i gael ei ddefnyddio tan 1939, pan gafodd ei chau. Symudodd sgwadron y Gwarchodlu Cenedlaethol i Van Nuys, a dymchwelwyd yr Erodrom. Rhwng 1946 a chanol y 1950au defnyddiwyd ardal yr erodrom ar gyfer prosiect tai cyhoeddus. Heddiw defnyddir yr ardal ar gyfer mae maes parcio Sw Los Angeles, Amgueddfa Treftadaeth Orllewinol Gene Autry, caeau pêl-droed, a'r gyfnewidfa hewl.
Sefydlodd Griffith gronfa arian ar gyfer unrhyw welliannau i'r parc. Ar ôl iddo farw ym 1919 dechreuodd y ddinas adeiladu'r hyn yr oedd Griffith wedi'i eisiau. Cwblhawyd yr amffitheatr, a elwir y Theatr Roegaidd, ym 1930, a gorffennwyd Arsyllfa Griffith ym 1935. Yn dilyn rhodd wreiddiol Griffith, daeth nifer o roddion eraill er mwyn ehangu'r Parc i'w faint presennol.
Ym mis Rhagfyr, 1944 rhoddodd Cwmni Sherman 444 erw o fannau agored Hollywoodland i Barc Griffith. Mae'r ardal fawr, eco-sensitif hwn yn ffinio â Llyn Hollywood i'r gorllewin, hen arwydd Hollywoodland i'r gogledd, a Bronson Canyon i'r dwyrain, lle mae'n cysylltu â rhodd wreiddiol Griffith. Mae cymuned breswyl Hollywoodland wedi'i hamgylchynu gan y tir hwn.[8][9][10]
Ar ôl bomio Pearl Harbour, cafodd gwersyll y Corfflu Cadwraeth Sifil, a oedd wedi'i leoli o fewn Parc Griffith, ei drawsnewid yn ganolfan i gadw Americanwyr Japaneaidd a arestiwyd fel "estroniaid gelyn" cyn iddynt gael eu trosglwyddo i wersylloedd parhaol. Agorodd y gwersyll hwn bron yn syth ar ôl ymosodiad Pearl Harbour.[11]
Ar 14 Gorffennaf 1942, daeth y gwersyll hwn yn Ganolfan Brosesu Carcharorion Rhyfel ar gyfer carcharorion rhyfel o'r Almaen, yr Eidal, a Japan. Roedd yn gweithredu tan 3 Awst 3 1943, pan drosglwyddwyd y carcharorion i rywle arall.[11]
Roedd 3,780 o weithwyr yn y parc ar 3 Hydref 3 1933, pan ddechreuodd tân yn ardal Mineral Wells. Fe wnaeth nifer o'r dynion wirfoddoli neu gael ei gymell i ymladd y tân. Lladdwyd 29 o'r dynion i gyd ac anafwyd 150. Cyrhaeddodd diffoddwyr tân proffesiynol a chyfyngu'r tân i 47 acr (19 ha).[12]
Ar 12 Mai 1961, llosgodd tân 814 acr (329 ha) ar ochr ddeheuol y parc. Fe ddinistriodd wyth cartref a difrodi naw arall.[13]
Digwyddodd tân arall ym 1971 yn ardal Toyon Canyon. Ar ôl gweld difrod y tân, ailblannodd Amir Dialameh gyfran ohoni ei hun â llaw. Dros gyfnod o fwy na 30 mlynedd, edrychodd ar ôl yr ardd a adeiladodd yno gyda chymorth gwirfoddolwyr achlysurol.[14]
Ar 8 Mai 2007, llosgodd tanau gwyllt mawr fwy na 817 acr (331 ha), yn dinistrio'r cysegrfan adar, Dante's View, a Captain's Roost, a gorfodi cannoedd o bobl i wacáu. Hwn oedd trydydd tân y flwyddyn.[15] Mae sawl sefydliad lleol, gan gynnwys SaveGriffithPark.org, wedi bod yn gweithio ers hynny gyda swyddogion lleol i adfer y parc mewn ffordd a fyddai o fudd i bawb.[16]
Parc Griffith oedd y lleoliad brysuraf yn Los Angeles ar gyfer ffilmio yn 2011, gyda 346 diwrnod cynhyrchu, yn ôl arolwg gan FilmL.A.. Ymhlith y prosiectau roedd y sioeau teledu Criminal Minds a The Closer.[19]
Mae gan Barc Griffith nifer o leoliadau a ddefnyddir yn y cyfryngau, fel:
Mae un pwma oedolyn yn byw yn y parc.[20] Cipiwyd delwedd ohono (a elwir yn P-22 [21]) ar gamera awtomatig.[22][23][24] Mae arwyddion parhaol ar ddec Arsyllfa Parc Griffith yn rhybuddio am nadroedd rhuglo yn yr ardal gyfagos.[25]
the Southern Pacific rattlesnake [is] found in Griffith Park -- a place where humans, dogs and rattlesnakes share the trails.