Andy Dwyer, Ann Perkins, April Ludgate, Ben Wyatt, Chris Traeger, Craig Middlebrooks, Donna Meagle, Jerry Gergich, Leslie Knope, Mark Brendanawicz, Ron Swanson, Tom Haverford, Li'l Sebastian, Shauna Malwae-Tweep
Yn cynnwys
Parks and Recreation, season 1, Parks and Recreation, season 2, Parks and Recreation, season 3, Parks and Recreation, season 4, Parks and Recreation, season 5, Parks and Recreation, season 6, Parks and Recreation, season 7
Cyfres deledu sitcom dychan gwleidyddol Americanaidd yw Parks and Recreation sy'n ddychan ar wleidyddiaeth. Crëwyd gan Greg Daniels a Michael Schur. Darlledwyd y gyfres ar NBC rhwng 9 Ebrill 2009 a 24 Chwefror 2015, dros 125 o episodau a saith cyfres.[2][3][4][5] Seren y gyfres yw Amy Poehler fel Leslie Knope, biwrocrat lefel ganol bywiog yn Adran Parciau Pawnee, tref ffuglennol yn Indiana. Mae'r cast ensemble yn cynnwys Rashida Jones fel Ann Perkins, Paul Schneider fel Mark Brendanawicz, Aziz Ansari fel Tom Haverford, Nick Offerman fel Ron Swanson, Aubrey Plaza fel April Ludgate, Chris Pratt fel Andy Dwyer, Adam Scott fel Ben Wyatt, Rob Lowe fel Chris Traeger, Jim O'Heir fel Jerry Gergich, Retta fel Donna Meagle, a Billy Eichner fel Craig Middlebrooks.
Er mwyn ysgrifennu'r gyfres, ymchwiliodd yr ysgrifenwyr i wleidyddiaeth leol Califfornia, ac ymgynghoron nhw â chynllunwyr trefol a swyddogion etholedig.[6] Aeth Leslie Knope trwy newidiadau mawr ar ôl y tymor cyntaf, mewn ymateb i adborth y gynulleidfa bod y cymeriad yn ymddangos yn annealladwy ac yn "ditzy". Ychwanegodd y staff ysgrifennu ddigwyddiadau cyfredol yn yr episodau, er enghraifft roedd cau'r llywodraeth yn Pawnee wedi'i ysbrydoli gan argyfwng ariannol byd-eang bywyd go iawn 2007-2008. Mae gwleidyddion go iawn wedi cael cameos mewn rhai episodau, er enghraifft y Seneddwr John McCain, yr Is-lywyddJoe Biden, a’r Brif FoneddigesMichelle Obama.
Darlledwyd Parks and Recreation ar NBC yn ystod ei floc amser oriau brig ar nos Iau. Derbyniodd y rhaglen adolygiadau cymysg yn ystod ei chyfres gyntaf (adolygiadau yn debyg i The Office, sitcom arall a gynhyrchwyd gan Daniels a Schur), ond, ar ôl ail-ymdrin â’i naws a’i fformat, cafodd yr ail gyfres a’r cyfresi dilynol ganmoliaeth eang. Trwy gydol ei rediad, derbyniodd Parks and Recreation sawl gwobr ac enwebiad, gan gynnwys 14 enwebiad Gwobr Emmy, cwpl o enwebiadau a buddugoliaethau Golden Globe, a buddugoliaeth Gwobr y Television Critics Association. Enwyd Parks and Recreation fel cyfres teledu gorau'r flwyddyn yn rhestr TIME yn 2012.[7]
Mae'r gyfres gyntaf yn canolbwyntio ar Leslie Knope, dirprwy gyfarwyddwr yr Adran Parciau a Hamdden yn nhref ffuglennol Pawnee, Indiana. Mae nyrs leol Ann Perkins yn mynnu bod y twll adeiladu wrth ochr ei thŷ, a grëwyd gan hen ddatblygiad condo, yn cael ei lenwi ar ôl i'w chariad, Andy Dwyer, syrthio i mewn a thorri ei goesau. Mae Leslie yn addo troi'r twll yn barc, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gyfarwyddwr y parciau Ron Swanson, rhyddfrydwr gwrth-lywodraeth.[8] Mae cynllunydd y ddinas Mark Brendanawicz - y mae gan Leslie teimladau rhamantus - yn mynnu bod y prosiect yn afrealistig oherwydd biwrocratiaeth y llywodraeth,[9] serch hynny mae e'n perswadio Ron i gymeradwyo'r prosiect. Mae Leslie a'i staff, gan gynnwys ei chynorthwyydd Tom Haverford a'i intern April Ludgate, yn ceisio annog diddordeb cymunedol yn y prosiect pwll, ond maent yn cwrdd â gwrthwynebiad.
Yn yr ail gyfres, mae'r twll yn cael ei lenwi oherwydd bod Andy yn bygwth siwio Pawnee oni bai bod y pwll cyn cael ei lenwi.[10] Mae Mark yn gadael ei yrfa yn neuadd y ddinas am swydd yn y sector preifat. Yn y cyfamser, mae diffyg cyllideb yn arwain archwilwyr Chris Traeger a Ben Wyatt i gau llywodraeth Pawnee dros dro.
Mae'r trydedd gyfres yn agor gyda Llywodraeth Pawnee yn ailagor. Mae Leslie yn penderfynu dod â gŵyl gynhaeaf Pawnee yn ôl, y bydd ei llwyddiant neu ei methiant yn pennu dyfodol ariannol yr adran.[11] Ar ôl wythnosau o gynllunio, daw’r ŵyl yn llwyddiant enfawr oherwydd ymdrechion Leslie.[12] Mae Chris wedyn yn dychwelyd o Indianapolis i ddod yn rheolwr dinas dros dro i Pawnee,[13] tra bod Ben hefyd yn cymryd swydd yn Pawnee.[14] Mae April ac Andy yn dechrau perthynas, ac, ond ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yn priodi mewn seremoni annisgwyl.[15] Mae Tom yn rhoi'r gorau i'w swydd yn neuadd y ddinas i ffurfio cwmni adloniant gyda'i ffrind, Jean-Ralphio.
Mae'r pedwaredd gyfres yn delio ag ymgyrch Leslie i redeg am gyngor y ddinas. Mae cwmni Tom a Jean-Ralphio, Entertainment 720, yn mynd allan o fusnes yn gyflym ac mae Tom yn dychwelyd i'w hen swydd. Mae Ben a Leslie yn cychwyn perthynas, ac mae Ben yn aberthu ei swydd i arbed Leslie rhag colli ei un hi, diolch i bolisi Chris yn gwrthwynebu perthnasoedd rhamantus yn y gweithle. Mae'r Adran Parciau'n gwirfoddoli i weithio dros ei hymgyrch, gyda Ben yn ymddwyn fel rheolwr ymgyrch Leslie. Mae ymgyrch Leslie yn wynebu llu o rwystrau yn erbyn ei phrif wrthwynebydd, Bobby Newport, a'i reolwr ymgyrch enwog Jennifer Barkley.
Yn y pumed gyfres, mae Leslie yn dechrau gweithio fel Cynghorydd Dinas, ond yn wynebu gwrthwynebiad gan bobl leol ddig a'i chyd-gynghorwyr. Mae Ben yn dechrau swydd newydd ar ymgyrch gyngresol yn Washington DC, gydag April wrth ei ochr fel intern. Mae Ron yn cychwyn perthynas ramantus gyda dynes o'r enw Diane. Mae Ben yn dychwelyd i Pawnee, ac yn gofyn Leslie i'w briodi. Mae Tom yn cychwyn busnes llwyddiannus yn rhentu dillad drud i bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Leslie a Ben yn cynllunio digwyddiad codi arian ar gyfer y parc, a elwir bellach yn Pawnee Commons, ac yn penderfynu cael priodas fyrfyfyr y noson honno yn Neuadd y Ddinas. Yn y pen draw mae newidiadau Leslie i Pawnee yn arwain at sawl person lleol yn deisebu iddi ymddiswyddo.
Mae'r chweched gyfres yn dechrau trwy amsugno Eagleton i mewn i Pawnee ar ôl i'r cyn-dref ddatgan methdaliad. Wrth i'r llywodraethau uno, mae Leslie yn colli'r bleidlais ac yn dychwelyd i'r Adran Barciau yn llawn amser, tra bod Ben yn cael ei phleidleisio fel rheolwr nesaf y ddinas. Mae Tom yn gwerthu Rhent-A-Swag i dad Jean-Ralphio, Dr. Saperstein mewn setliad arian parod ac yn agor bwyty o'r enw "Tom's Bistro". Mae Ann a Chris, sydd bellach mewn perthynas ac yn disgwyl babi, yn gadael Pawnee am Michigan. Fel ffordd i ennyn cefnogaeth y cyhoedd am yr uniad amhoblogaidd, mae'r Adran Parciau yn cynnal Cyngerdd Undod. Mae Leslie yn datgelu ei bod yn feichiog gyda thripledi, ac yn cymryd y swydd fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Parc Cenedlaethol yn Chicago, ar unwaith yn cyflwyno cynnig i symud ei swydd i Pawnee.
Mae stori'r seithfed gyfres, er iddo ddarlledu yn 2015, yn digwydd yn 2017. Dangosir bod Ron a Leslie yn elynion oherwydd bod cwmni Ron wedi dinistrio hen dŷ Ann er mwyn codi adeilad fflatiau. Mae Ben yn perswadio cwmni technoleg, Gryzzl, i ddod â Wi-Fi am ddim i ddinas Pawnee. Mae Gryzzl cloddio data, sy'n cymell i Ron - y mae ei gwmni adeiladu newydd wedi bod yn trin anghenion adeiladu Gryzzl - i ailgysylltu â Leslie i gywiro'r mater.
Roedd y brif gast a ddechreuodd yn nhymor un yn cynnwys:[16]
Amy Poehler fel Leslie Knope, biwrocrat lefel ganol sydd â chariad cryf at ei thref enedigol, Pawnee, ac nad yw wedi gadael i wleidyddiaeth lleihau ei optimistiaeth; ei nod yn y pen draw yw dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.[17] Gadawodd Poehler y gyfres gomedi sgets NBC Saturday Night Live, lle bu’n aelod o’r cast am bron i saith mlynedd, i serennu yn Parks and Recreation.[18][19] Ond ar ôl iddi gael ei gastio y sefydlodd Daniels a Schur gysyniad cyffredinol y gyfres ac ysgrifennwyd y sgript ar gyfer y peilot.[20]
Rashida Jones fel Ann Perkins, nyrs a rhywun o'r tu allan i wleidyddiaeth sy'n raddol chwarae mwy o ran yn llywodraeth Pawnee trwy ei chyfeillgarwch â Leslie.[15] Roedd Jones ymhlith y cyntaf i gael ei gastio gan Daniels a Schur yn 2008, pan oedd y rhaglen yn dal i gael ei hystyried fel spin-off i The Office, lle'r oedd Jones wedi chwarae cymeriad.[21] Gadawodd hi a Lowe ganol cyfres 6, a dychwelodd am ymddangosiad gwestai yn ddiweddarach yn y tymor.[22] Dychwelodd y ddau yn yr episod terfynol y rhaglen.
Paul Schneider fel Mark Brendanawicz, cynllunydd dinas a aeth i mewn i'r maes gydag ymdeimlad o optimistiaeth, ond ers hynny mae wedi cael ei ddadrithio. Dywedodd Schneider yn gynnar yn y gyfres ei fod yn ansicr yn y rôl oherwydd ei fod yn dal i geisio darganfod cymhellion y cymeriad. Gadawodd Schneider y cast ar ôl yr ail dymor ac ni chyfeirir at y cymeriad ar unrhyw adeg yn ystod weddill rhediad y rhaglen.[23][24]
Aziz Ansari fel Tom Haverford, is-swyddog coeglyd a thangyflawnol Leslie,[25] sydd yn y pen draw yn ystyried gadael ei swydd yn neuadd y ddinas i ddilyn ei ddiddordebau entrepreneuraidd ei hun.[26] Yn yr un modd â Jones, roedd Daniels a Schur wedi bwriadu castio Ansari yn gynnar yn ddatblygiad y rhaglen.
Nick Offerman fel Ron Swanson, cyfarwyddwr parciau a hamdden sydd, fel rhyddfrydwr, yn credu mewn llywodraeth mor fach â phosib. Felly mae Ron yn ymdrechu i wneud ei adran mor aneffeithiol â phosibl, ac mae'n ffafrio cyflogi gweithwyr nad ydynt yn poeni am eu swyddi neu nad yw'n dda ynddynt. Serch hynny, mae Ron yn dangos yn gyson ei fod yn poeni'n gyfrinachol am ei gyd-weithwyr.[27]
Aubrey Plaza fel April Ludgate, intern adran parciau sinigaidd, heb ddiddordeb mewn unrhywbeth, ac sy'n siarad mewn llais undonog. Mae hi'n dod yn gynorthwyydd perffaith i Ron.[28] Ysgrifennwyd y rôl yn benodol ar gyfer Plaza; ar ôl cwrdd â hi, dywedodd y cyfarwyddwr castio Allison Jones wrth Schur, "Fe wnes i gwrdd â'r ferch ryfeddaf i mi ei chyfarfod erioed yn fy mywyd. Mae'n rhaid i chi gwrdd â hi a'i rhoi ar eich sioe."[29]
Chris Pratt fel Andy Dwyer, diogyn hurt a twp, ond hoffus, a chyn-gariad Ann. Yn wreiddiol bwriadwyd i Pratt fod yn seren westai ac roedd y cymeriad Andy i fod i ymddangos yn y gyfres gyntaf yn unig, ond roedd y cynhyrchwyr yn hoffi Pratt cymaint benderfynon nhw ei wneud yn aelod cast rheolaidd o gyfres dau ymlaen.[30]
Cyflwynwyd a ddatblygwyd sawl aelod o'r cast, a'u hychwanegu at y credydau agoriadol, dros fywyd y rhaglen:
Adam Scott fel Ben Wyatt, swyddog llywodraeth wych ond yn gymdeithaso; lletchwith, sy'n ceisio ad-dalu ei orffennol fel maer a fethodd yn ei ieuenctid.[31] Gadawodd Scott ei rôl yn serennu yn y rhaglen gomedi Party Down i ymuno â'r gyfres, yn ddechrau yn episod olaf ond un yr ail gyfres.[32]
Rob Lowe fel Chris Traeger, swyddog llywodraeth hynod bositif ac ymwybodol iawn o'i iechyd.[33] Cyflwynwyd Lowe gyda Scott ac yn wreiddiol roedd disgwyl iddo adael ar ôl un gyfres fel gwestai,[34][35] ond yna lofnododd gontract aml-flwyddyn i ddod yn aelod rheolaidd o'r cast.[36][37] Gadawodd ef a Rashida Jones y rhaglen yng nghanol y chweched gyfres,[22] yn dychwelyd yn yr episod derfynol.
Roedd Jim O'Heir a Retta yn ymddangos yn rheolaidd fel Jerry Gergich a Donna Meagle yn y drefn honno ers y gyfres gyntaf, ond ni ddatblygwyd eu personoliaethau tan yr ail gyfres. Dywedodd Schur fod y staff Parks and Recreation yn hoffi'r actorion felly penderfynon nhw eu cynnwys yn y sioe. Roedd jôc fach ar draul Jerry yn un episod wedi arwain iddo gael ei sefydlu fel y cydweithiwr anfedrus y mae gweddill yr adran yn gwneud hwyl ar ei ben.[29] Datblygwyd Donna fel hedonydd sassi, a chyfeiriwyd at ei fywyd dirgel o bryd i'w gilydd. Nid tan y trydydd tymor y cawsant eu hystyried yn aelodau cast rheolaidd,[38] ac fe'u hychwanegwyd at y credydau yn ystod y chweched tymor.[39]
Billy Eichner fel Craig Middlebrooks, gweithiwr dros-angerddol yn llywodraeth leol Pawnee, y dechreuodd gweithio i'r adran pan unodd Eagleton â Pawnee. Roedd yn aelod cast achlysurol yn ystod y chweched gyfres, ac roedd yn aelod rheolaidd y cast o bedwaredd episod y seithfed gyfres.
Mae nifer o actorion wedi ymddangos yn westai achlysurol trwy gydol y gyfres, gan gynnwys:
Pamela Reed fel mam Leslie a'i gyd-wleidydd Marlene Griggs-Knope,
Ben Schwartz fel ffrind Tom, Jean-Ralphio a Jenny Slate fel ei efaill Mona-Lisa,[40]