Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | parlys gwynebol, palsy, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o barlys wynebol yw Parlys Bell ac y mae'n arwain at anallu i reoli cyhyrau'r wyneb, fel arfer ar un ochr. Gall symptomau amrywio o rai cymedrol i ddifrifol. Medrant gynnwys aflonyddwch yn y cyhyrau, gwendid cyffredinol wynebol, neu ddiffyg gallu llwyr i symud un ochr, neu mewn achosion prin, yr wyneb yn ei gyfanrwydd. Mae symptomau eraill yn cynnwys datblygu amrannau llipa, newid yn y synhwyrau blasu, poen o gwmpas y glust a sensitifrwydd cynyddol i sain. Fel arfer datblygir symptomau dros gyfnod o 48 awr.[1]
Nid yw'r nodweddion sy'n achosi parlys Bell yn eglur. Mae'r ffactorau risg yn cynnwys clefyd y siwgwr ynghyd â heintiau diweddar ynghylch yr uwch lwybr anadlol. Deillia o gamweithrediad yn y nerf greuanol VII (y nerf wynebol). Y gred gyffredinol yw yr achosir gan haint feirol sy'n arwain at chwyddo. Gwneir diagnosis yn seiliedig ar ymddangosiad person ynghyd â phroses o ddileu achosion eraill posibl. Gall gyflyrau eraill achosi gwendid wynebol, er enghraifft tiwmor yr ymennydd, strôc, syndrom Ramsay Hunt a chlefyd Lyme.
Fel arfer y mae'r cyflwr yn gwella ei hun a cheir y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn dychwelyd i'w galluoedd wynebol naturiol, neu'n agos atynt. Darganfuwyd bod corticosteroidau yn medru gwella canlyniadau, y mae meddyginiaethau gwrthfirysol yn rhannol fuddiol hefyd.[2] Dylai'r llygad gael ei ddiogelu rhag sychder, a gellir gwneud hynny drwy ddefnyddion glwt llygad neu ddiferion llygad. Yn gyffredinol, ni argymhellir llawdriniaeth. Gellir adnabod arwyddion o welliant ymhen 14 diwrnod, ond cymerir oddeutu chwe mis i sicrhau gwellhad llawn. Efallai na fydd rhai dioddefwyr yn gwella'n llwyr ac mae'n bosib i symptomau ailymddangos mewn rhai achosion.
Achosir y rhan fwyaf o gyflyrau parlys wynebol nerfol un ochrog gan Parlys Bell (70%).[3] Effeithia ar 1 i 4 ym mhob 10,000 o bobl y flwyddyn.[4] Mae oddeutu 1.5% o'r boblogaeth yn cael eu heffeithio gan y cyflwr ar ryw adeg yn eu bywyd.[5] Caiff ei ganfod yn bennaf mewn pobl rhwng 15 a 60 oed. Mae'r un mor gyffredin ymysg dynion a menywod. Fe'i henwyd ar ôl y llawfeddyg Albanaidd, Charles Bell (1774-1842), a gysylltodd y cyflwr am y tro cyntaf gyda'r nerf wynebol.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)