Sioe gyhoeddus yw parêd a'i brif nodwedd yw gorymdaith drefnus neu seremonïol.[1][2] Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, balwnau, anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft balchder hoyw). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.
Mae paredau yn hynod o boblogaidd yn Unol Daleithiau America fel modd i fynegi cyd-hunaniaeth mewn ardaloedd trefol, ac fel cyfle i hyrwyddo ymgyrchoedd gwleidyddol neu hysbysebu busnesau yn yr awyr agored ac ar y teledu. Un o'r diwrnodau parêd mwyaf poblogaidd yw Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ar 4 Gorffennaf, a nodir gan seindorfeydd, baneri, gorymdeithiau o filwyr a chyn-filwyr, a thân gwyllt mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Pob Mehefin, cynhelir Parêd Diwrnod Puerto Rico ar hyd Fifth Avenue, Manhattan, gan ddenu miliynau o wylwyr. Ymhlith y gwyliau eraill a nodir gan baredau ar gyfer hunaniaethau ethnig a diwylliannol mae Gŵyl Sant Padrig, nawddsant y Gwyddelod, a Cinco de Mayo ar gyfer Americanwyr o dras Fecsicanaidd. Mae rhai paredau yn sioeau ysblennydd a ariennir gan gwmnïau i hybu cystadlaethau chwaraeon neu i ddenu hysbysebwyr a chwsmeriaid. Noddir parêd mwyaf y byd gan y siop adrannol Macy's yn Efrog Newydd ar Ddiwrnod y Diolchgarwch, sydd yn nodedig am ei falwnau enfawr o gymeriadau cartŵn. Arddangosir paredau yn ddyddiol mewn parciau thema Disney.[3]
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.[1]