Pavlo Tychyna | |
---|---|
Pavlo Tychyna ym 1924. | |
Ganwyd | Павел Григорьевич Тычинин 11 Ionawr 1891 (yn y Calendr Iwliaidd) Pisky |
Bu farw | 16 Medi 1967 Kyiv |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, ysgolhaig llenyddol, gwleidydd, awdur storiau byrion |
Swydd | Chairman of the Verkhovna Rada, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd |
Arddull | pennill, barddoniaeth naratif, sketch story, stori fer |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Gwobr/au | Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Baner Coch y Llafur, Urdd Baner Coch y Llafur, Gwobr Wladol Stalin, Gwobr Genedlaethol Shevchenko, Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945" |
llofnod | |
Bardd o Wcráin yn yr iaith Wcreineg a gwleidydd Sofietaidd oedd Pavlo Tychyna (Wcreineg: Павло Тичина; 27 Ionawr [15 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1891 – 16 Medi 1967).[1][2]
Ganed ym mhentref Pisky, swydd Kozelets, yn rhanbarth Chernihiv, Ymerodraeth Rwsia. Derbyniodd ei addysg elfennol yn y cartref cyn iddo fynychu'r ysgol zemstvo leol. Symudodd i ddinas Chernihiv ym 1900, ac yno canai mewn côr y mynachlog.[2] Mae ei gerdd gynharaf, "Synie nebo zakrylosia", yn dyddio o 1906. Y gerdd gyntaf ganddo a gyhoeddwyd oedd "Vy znaiete, iak lypa shelestyt'?" a ymddangosodd yn y cylchgrawn Literaturno-naukovyi vistnyk ym 1912. Wedi iddo raddio o Goleg Diwinyddol Chernihiv ym 1913, astudiodd yng Ngholeg Masnachol Kyiv o 1913 i 1917. Tra'r oedd yn fyfyriwr yn Kyiv, gweithiodd Tychyna i griwiau golygyddol y papur newydd Rada a'r cylchgrawn addysg Svitlo. Daeth i'r amlwg fel prif fardd yr iaith Wcreineg yn ystod cyfnod cynnar Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd (GSS) yr Wcráin. Cyflwynai arddull newydd o farddoniaeth o'r enw kliarnetyzm ("clarinetiaeth") gyda'i gasgliad cyntaf o gerddi, Soniashni kliarnety (1918). Cafodd ragor o lwyddiant gyda'r cyfrolau Zamist’ sonetiv i oktav (1920), Pluh (1920), V kosmichnomu orkestri (1921), a Viter z Ukraïny (1924).[3]
Symudodd Tychyna i Kharkiv ym 1923 ac ymunodd â'r cylch llenyddol proletaraidd Hart, a sefydlwyd yno gan Vasyl Blakytny. Cyfranodd yn y cyfnod hwn at y cyfnodolyn misol Chervonyi shliakh.[2] Ym 1927, ymochrodd â charfan arall o lenorion yn Kharkiv o'r enw Vaplite a oedd yn edmygu llên Gorllewin Ewrop ac yn dadlau dros ffurfio traddodiad annibynnol newydd o lenyddiaeth Wcreineg. O ganlyniad i'w aelodaeth yn Vaplite, a'i gerdd "Chystyla maty kartopliu", cyhuddwyd Tychyna o "genedlaetholdeb bwrdeisaidd" gan yr awdurdodau comiwnyddol. Ildiodd Tychyna i bwysau'r llywodraeth wedi iddo gael ei dderbyn i Academi Gwyddorau GSS yr Wcráin ym 1929, ac ysgrifennodd farddoniaeth yn arddull Realaeth Sosialaidd, ideoleg swyddogol y Blaid Gomiwnyddol. Ymddengys cerddi o'r fath, yn clodfori'r drefn Stalinaidd, yn ei gasgliadau Chernihiv (1931), Partiia vede (1934), Chuttia iedynoï rodyny (1938; a enillodd iddo Wobr Lenyddol Stalin ym 1941), Pisnia molodosti (1938), a Stal’ i nizhnist’ (1941).[3]
Gwasanaethodd Tychyna yn ddirprwy i Sofiet Goruchaf GSS yr Wcráin am 29 mlynedd, o 1938 hyd at ei farwolaeth, ac yn ddirprwy i Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd o 1946 hyd at ei farwolaeth. Daliodd swyddi cadeirydd Sofiet Goruchaf GSS yr Wcráin o 1953 i 1959, cyfarwyddwr Athrofa Lenyddol Academi Gwyddorau GSS yr Wcráin o 1936 i 1939 ac o 1941 i 1943, a gweinidog addysg GSS yr Wcráin o 1943 i 1948.[3]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mynegai Tychyna ysbryd rhyfelgar a gwladgarol yn ei gasgliadau My idemo na bii (1941), Peremahat’ i zhyt’ (1942), Tebe my znyshchym—chort z toboiu (1942), a Den’ nastane (1943). Cyhoeddodd 11 gyfrol arall o farddoniaeth o ddiwedd y rhyfel hyd at ei farwolaeth, yn canu mawl y Blaid Gomiwnyddol, yr arweinydd Sofietaidd Nikita Khrushchev, ac arwyr y mudiad sosialaidd. Er gwaethaf yr ymgyrch i ddad-Stalineiddio'r Undeb Sofietaidd, glynodd Tychyna at dueddiadau uniongred yr awdurdodau ac ymosododd ar y shistdesiatnyky, mudiad arbrofol o lenorion Wcreinaidd yn niwedd y 1950au a dechrau'r 1960au. Erbyn diwedd ei oes, roedd barddoniaeth Tychyna yn hen ffasiwn ac yn ymddangos weithiau fel hunan-barodi. Bu farw Pavlo Tychyna yn Kyiv yn 76 oed. Cyhoeddwyd rhagor o'i gerddi wedi iddo farw, yn y casgliadau Virshi (1968) a V sertsi moïm (1970).[3]