Pawl, brenin y Groegiaid | |
---|---|
Pawl, pan oedd yn dywysog, ym 1939. | |
Ganwyd | 14 Rhagfyr 1901 Athen |
Bu farw | 6 Mawrth 1964 Tatoi Royal Cemetery |
Dinasyddiaeth | Gwlad Groeg |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Brenin y Groegiaid |
Tad | Cystennin I, brenin y Groegiaid |
Mam | Sophie o Brwsia |
Priod | Friederike o Hannover |
Plant | Sofía, brenhines Sbaen, Cystennin II, Eiríni o Roeg |
Llinach | Llinach y Glücksburgs |
Gwobr/au | Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd y Gwaredwr, Urdd y Dannebrog, Urdd Teilyngdod Bavaria, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Coler Urdd Isabella y Catholig |
llofnod | |
Uchelwr o Dŷ Glücksburg oedd Pawl (Groeg: Παύλος trawslythreniad: Pávlos;14 Rhagfyr 1901 – 6 Mawrth 1964) a fu'n Frenin y Groegiaid o 1 Ebrill 1947 hyd at ei farwolaeth.
Ganed ef yn Athen, yn bedwerydd plentyn i'r Tywysog Coronog Cystennin a'i wraig y Dywysoges Sophie, merch Ffredrig III, cyn-Ymerawdwr yr Almaen. Roedd ganddo ddau frawd hŷn (Siôr ac Alecsander), un chwaer hŷn (Elen), a dwy chwaer iau (Eiríni a Catrin). Yn sgil llofruddiaeth ei dad-cu, y Brenin Siôr I, ym 1913, esgynnodd Cystennin I i'r orsedd. Wedi i Roeg ymuno â'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917 ar ochr y Cynghreiriaid, dan arweiniad y Prif Weinidog Eleftherios Venizelos, aeth Cystennin yn alltud (gyda Pawl) a choronwyd Alecsander yn Frenin y Groegiaid. [1] Wedi marwolaeth ei frawd Alecsander yn Hydref 1920, gwrthododd Pawl, yn 18 oed, y goron, ac adferwyd Cystennin yn frenin yn sgil pleidlais. Dychwelodd Pawl i Roeg yn Rhagfyr 1920. Ymddiorseddodd Cystennin am yr eildro ym 1922 ac esgynnodd Siôr II i'r orsedd; yn wyneb gwrthwynebiad iddo, aeth y teulu brenhinol, gan gynnwys Pawl, yn alltud eto yn Rhagfyr 1923.[2]
Adferwyd Siôr yn frenin ym 1935, a dychwelodd Pawl i Roeg unwaith eto. Ar 9 Ionawr 1938, priododd Pawl â Friederike, Tywysoges Hannover, wyres y Caiser Wilhelm II. Cawsant dri phlentyn: Sophia (ganed 1938), a fyddai'n priodi Juan Carlos, Tywysog Astwrias, ym 1962 ac yn Frenhines Gydweddog Sbaen o 1975 i 2014; Cystennin (1940–2023), yr olaf o Frenhinoedd y Groegiaid o 1964 i 1973; ac Irene (g. 1942). Dyrchafwyd y Tywysog Pawl yn swyddog yn y llynges, y fyddin, a'r awyrlu, ac yr oedd yn aelod o staff y fyddin adeg goresgyniad Groeg gan yr Eidal yn Hydref 1940. Ffoes y teulu brenhinol y wlad, a threuliodd Pawl weddill yr Ail Ryfel Byd yn yr Aifft ac yn Ne Affrica.
Esgynnodd Pawl i'r orsedd yn sgil marwolaeth Siôr II ar 1 Ebrill 1947. Yn ystod Rhyfel Cartref Groeg (1946–49), derbyniodd ei wlad gymorth economaidd a milwrol oddi ar Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Unedig er mwyn gostegu'r gwrthryfel comiwnyddol. Bu farw'r Brenin Pawl yn Athen yn 62, wedi 17 mlynedd ar yr orsedd, a fe'i olynwyd gan ei fab Cystennin II.