Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Crëwr | Sergei Prokofiev |
Dyddiad cyhoeddi | 1936 |
Cyfansoddwr | Sergei Prokofiev |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Pedr a'r Blaidd (Rwseg: «Петя и волк», "Pétya i volk", IPA: [pʲetʲə i volk]) Op. 67, yn "stori dylwyth teg symffonig i blant" ac yn gyfansoddiad cerddorol a ysgrifennwyd gan Sergei Prokofiev ym 1936. Mae adroddwr yn adrodd y stori i blant, tra fo'r gerddorfa yn ei darlunio. Dyma gyfansoddiad mwyaf poblogaidd Prokofiev, y gwaith sy'n cael ei berfformio amlaf, ac un o'r darnau sy'n cael ei berfformio amlaf o fewn byd cerddoriaeth glasurol. Fe'i recordiwyd sawl gwaith.
Ym 1936, rhoddwyd comisiwn i Sergei Prokofiev gan Natalya Sats, cyfarwyddwraig Theatr Ganolog y Plant ym Moscow, i ysgrifennu symffoni gerddorol i blant. Roedd Sats a Prokofiev wedi dod i nabod ei gilydd ar ôl iddo ymweld â'i theatr gyda'i feibion sawl gwaith.[1] Y bwriad oedd cyflwyno plant i offerynnau unigol y gerddorfa. Roedd drafft cyntaf y libreto yn ymwneud ag Arloeswr Ifanc (y fersiwn Sofietaidd o'r Sgowtiaid) o'r enw Pedr sy'n cywiro anghyfiawnder trwy herio oedolyn. (Roedd hwn yn thema gyffredin mewn propaganda wedi'i anelu at blant yn yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.) Fodd bynnag, roedd Prokofiev yn anfodlon â'r testun mewn odl a gynhyrchwyd gan Antonina Sakonskaya, awdur plant poblogaidd. Ysgrifennodd Prokofiev fersiwn newydd lle mae Pedr yn dal blaidd. Yn ogystal â hyrwyddo rhinweddau arloesol a ddymunir megis gwyliadwriaeth, dewrder a dyfeisgarwch, mae'r plot yn dangos themâu Sofietaidd megis ystyfnigrwydd y genhedlaeth hŷn wrth-Folsieficaidd (y taid) a buddugoliaeth dyn (Pedr) i drechu natur (y blaidd).[2]
Cynhyrchodd Prokofiev fersiwn ar gyfer y piano mewn llai nag wythnos, gan orffen ar 15 Ebrill. Gorffennwyd y trefniant cerddorfaol ar 24 Ebrill. Rhoddwyd perfformiad cyntaf y gwaith mewn cyngerdd i blant ym mhrif neuadd Conservatoire Ffilharmonig Moscow gyda cherddorfa Ffilharmonig Moscow ar 2 Mai 1936. Fodd bynnag, roedd Sats yn sâl ac roedd y llefarydd a chymerodd ei le yn ddibrofiad, a methodd y perfformiad i ddenu llawer o sylw.[1][3][4][5] Yn ddiweddarach y mis hwnnw, rhoddwyd perfformiad llawer mwy llwyddiannus gyda Sats yn lleisio ym Mhalas Arloeswyr Moscow. Cynhaliwyd y perfformiad Americanaidd cyntaf ym mis Mawrth 1938, gyda Prokofiev ei hun yn arwain Cerddorfa Symffoni Boston yn Neuadd Symffoni Boston gyda Richard Hale yn lleisio. Erbyn hynny roedd Sats wedi ei dedfryd i gyfnod yn y gulag, lle cafodd ei hanfon ar ôl i'w chariad y Marsialydd Mikhail Tukhachevsky cael ei ddienyddio am frad ym mis Mehefin 1937.[6]
Mae Pedr, Arloeswr Ifanc,[7][8] yn byw yng nghartref ei daid mewn cliriad yn y goedwig. Un diwrnod, mae Pedr yn mynd allan i'r llannerch, gan adael giât yr ardd yn agored, ac mae'r hwyaden sy'n byw yn yr iard yn dal ar y cyfle i fynd i nofio mewn pwll gerllaw. Mae'r hwyaden yn dechrau dadlau gydag aderyn bach ("Pa fath o aderyn ydych chi os na allwch hedfan?" - "Pa fath o aderyn ydych chi os na allwch chi nofio?"). Mae cath anwes Pedr yn mynd ar eu trywydd yn dawel, ac mae'r aderyn, wedi'i rybuddio gan Pedr, yn hedfan i ddiogelwch mewn coeden uchel tra bod yr hwyaden yn nofio i ddiogelwch yng nghanol y pwll.
Mae taid Pedr yn ei ddwrdio am fod y tu allan yn y cliriad ar ei ben ei hun ("Beth petai flaidd wedi dod allan o'r goedwig?"), Mae Pedr yn dadlau nôl, gan ddweud: "Nid yw bechgyn fel fi yn ofni bleiddiaid", mae ei daid yn ei gymryd yn ôl i mewn i'r tŷ ac yn cloi'r giât. Yn fuan wedyn, mae "blaidd mawr, llwyd" yn dod allan o'r goedwig. Mae'r gath yn dringo'n gyflym i mewn i'r goeden, ond mae'r hwyaden, sydd wedi neidio allan o'r pwll, yn cael ei hela, ei ddal, a'i lyncu gan y blaidd.
Mae Pedr yn nol rhaff ac yn dringo dros wal yr ardd i'r goeden. Mae'n gofyn i'r aderyn hedfan o gwmpas pen y blaidd i dynnu ei sylw, tra ei fod yn gostwng dolen rhaff ac yn dal y blaidd gerfydd ei gynffon. Mae'r blaidd yn brwydro i gael ei hun yn rhydd, ond mae Pedr yn clymu'r rhaff i'r goeden ac mae'r ddolen yn tynhau.
Mae helwyr, sydd wedi bod yn hela'r blaidd, yn dod allan o'r goedwig yn barod i'w saethu, ond mae Pedr yn gofyn eu cymorth i gymryd y blaidd i sŵ cyfagos mewn parêd buddugoliaethus (perfformiwyd y darn yn gyntaf ar gyfer cynulleidfa o Arloeswyr Ifanc yn ystod dathliadau parêd Mai'r cyntaf) sy'n cynnwys ei hun, yr aderyn, yr helwyr sy'n arwain y blaidd, y gath, a'r taid sarrug sy'n parhau i gwyno "Beth pe bai Pedr heb dal y blaidd? Be fyddai wedi digwydd wedyn?"
Yn niwedd y stori, dywedir wrth y gwrandäwr: "Os ydych chi'n gwrando'n astud, fe glywch yr hwyaden yn cwacio tu mewn i fol y blaidd, gan fod y blaidd, yn ei frys, wedi ei lyncu yn fyw."
Cynhyrchodd Prokofiev nodiadau perfformiad manwl yn Saesneg a Rwsieg ar gyfer Pedr a'r blaidd. Yn ôl y cyfarwyddiadau:
Mae Pedr a'r blaidd wedi ei sgorio ar gyfer y gerddorfa ganlynol:
Mae gan bob cymeriad yn y stori offeryn arbennig a thema gerddorol:[10]
Mae perfformiad yn para tua 25 munud.[11]
Yn ôl erthygl gan Jeremy Nicholas ar gyfer y cylchgrawn cerddoriaeth glasurol Gramophone yn 2015, y recordiad gorau o Pedr a'r blaidd yw'r un gan y New Philharmonia Orchestra, wedi ei leisio gan Richard Baker a'i arwain gan Raymond Leppard ym 1971. Y fersiwn DVD gorau yn ôl y cylchgrawn yw Ffilm 2006 gan Suzie Templetonlle mae'r gerddoriaeth yn cael ei berfformio, heb leisiwr, gan y Philharmonia Orchestra dan arweiniad Mark Stephenson.[12]