Dethlir ei ŵyl ar 4 Mehefin ac ystyrir ef weithiau yn un o nawddseintiauCernyw (er mai Piran a ystyrir felly gan amlaf).
Pan luniwyd baner newydd ar gyfer Dyfnaint yn 2003, a hynny ar sail casglu barn ar-lein, fe'i cysegrwyd i Pedrog.[1][2] Ond datganodd Cyngor Sir Dyfnaint yn 2019 mai Sant Boniffas a fydd yn cael ei fabwysiadu fel nawddsant swyddogol y sir honno.[3][4][5]
Prin iawn yw'r wybodaeth sydd gennym o gyfnod Pedrog ei hun ac mae'n debyg mai yn yr 11eg ganrif y lluniwyd y fuchedd gyntaf iddo, a hynny rywle yng Nghernyw. Mae'r testun wedi ei gadw yng Ngoffâd Sant Meven o Lydaw (Paris, Bibliothèque Nationale, MS Lat. 9889). Mae nifer o destunau sy'n crybwyll Pedrog wedi eu cadw yng nghagliad llawysgrif Gotha o fucheddau seintiau Prydeinig (Gotha, Forschungsbibliothek MS Memb. I 81). Yn eu plith mae buchedd o'r 12ed ganrif sy'n deillio'n rhannol o fuchedd y Coffâd ond sydd hefyd yn cynnwys cryn ddeunydd annibynnol. Cynhwysodd John o Tynemouth (14eg ganrif) dalfyriad o fuchedd y Coffâd yn ei gasgliad o fucheddau'r saint (a aildrefnwyd yn Nova legenda Anglie). Enwir Pedrog mewn sawl llawysgrif o Gymru sy'n cynnwys bucheddau ac achau'r saint.
Dywed buchedd y Coffâd fod Pedrog yn fab i frenin dienw o Gymru. Yn ôl y rhagair i Fuchedd Cadog a'r achau ar ddiwedd buchedd Gotha, mab ydoedd Pedrog i Glywys, sefydlydd teyrnas Glywysing. Ond mae achau 'Bonedd y Saint' yn dweud ei fod yn fab i Clement, tywysog o Gernyw. Dywed Buchedd Cadog i Pedrog ymwrthod â'i etifeddiaeth frenhinol a chilio i Bodmin yng Nghernyw. Ar y llaw arall, dywed buchedd Gotha iddo etifeddu'r frenhiniaeth a gorchyfgu ei gelynion cyn troi'n fynach.
Mae'r bucheddau yn dweud iddo ymweld ag Iwerddon, Cernyw, Rhufain, y Wlad Sanctaidd, ac India cyn dychwelyd i Gernyw lle bu farw yn Treravel, ger Padstow (tref a enwyd ar ei ôl).
Yn ôl yr hynafiaethydd William Worcester (1415 – c. 1482) bu farw Pedrog ar 4 Mehefin 564. Cadwyd ei greiriau yn eglwys Bodmin tan 1177, pan y'u cymerwyd nhw (yn ôl buchedd Gotha) i Abaty St Meven yn Llydaw hyd nes i'r brenin Harri II mynnu eu dychwelyd. Fe'u collwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ond mae'r gist ifori a'u cynhwysai i'w gweld yn eglwys Bodmin.
Doble, G. H. St Petrock, 3ydd argraffiad, Cornish Saints Series, 11 (1938)
Doble, G. H. (1939). ‘The relics of St Petroc’, Antiquity, 13, 403–15
Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
Förster, M. (1930). ‘Die Freilassungsurkunden des Bodmin-Evangeliars’, A grammatical miscellany offered to Otto Jespersen on his seventieth birthday, ed. N. Bogholm, A. Brusendorff, a C. A. Bodelsen, 77–99