Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanasa |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.326597°N 3.305289°W |
Cod OS | SJ133824 |
Gwleidyddiaeth | |
Pentrefan yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Pen-y-ffordd.[1] Fe'i lleolir rhwng Treffynnon a Phrestatyn, i'r gogledd-orllewin o Fostyn. Saif ar fryn ychydig i'r de o bentref Ffynnongroyw, gyda golygfeydd dros Glannau Dyfrdwy.[2]
Mae gan y pentref ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, Ysgol Bryn Garth,[3] a chapel presbyteraidd, Capel Gwynfa,[4] a adeiladwyd ym 1905.
Cafodd y dramodydd ac actor Emlyn Williams ei eni ym Mhen-y-fffordd mewn teulu o siaradwyr Cymraeg.[5] Fe oedd yr ail berson a gafodd ei fedyddio yng Nghapel Gwynfa.[4]