Math | dosbarth, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,911 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5°N 3.2°W |
Cod SYG | W04000860 |
AS/au y DU | Jo Stevens (Llafur) |
Ardal yng ngogledd Caerdydd, Cymru, ydy Penylan, sy'n cael ei adnabod ei dai oes Fictoria a ffyrdd llydan gyda rhesi o goed ar eu hyd.
Mae'n pontio ffordd ddeuol yr A48 sy'n rhannu de a gogledd Penylan. Mae'n un o ardaloedd gwyrddaf Caerdydd, ac yn cynnwys rhan deheuol o Barc y Rhath.
Mae llyfrgell a chanolfan gymunedol wedi eu lleoli yn ne Penylan, ar gyffordd Ffordd Penylan a Ffordd Wellfield.[1]
Agorwyd Synagogue Penylan ym 1955, a chaewyd hi yn 2003 pan agorwyd synagogue newydd yng Ngerddi Cyncoed gerllaw.[2]
Mae Penylan yn rhan o etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n ffinio â wardiau Cyncoed i'r gogledd-orllewin; Pentwyn i'r gogledd; Llanrhymni i'r de-ddwyrain; Tredelerch i'r dwyrain; Y Sblot i'r de-ddwyrain; Adamsdown i'r de; a Phlasnewydd i'r de-orllewin.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]