Amhariad mewn dirnadaeth a sefydlogrwydd gofodol yw pendro (hefyd 'madrondod' neu 'deimlad chwil').[1] Mae'r term pendro yn amwys:[2] gall gyfeirio at fertigo, presyncopi, anghytbwysedd,[3] neu deimlad amhenodol fel penysgafnder neu ddryswch.[4]
Mae'n bosib achosi pendro yn fwriadol trwy wneud rhai gweithgareddau neu symudiadau corfforol fel troelli.