Penelope Lively | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1933 Cairo |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, cyflwynydd radio, awdur plant |
Blodeuodd | 1987 |
Adnabyddus am | Moon Tiger, According to Mark, The Ghost of Thomas Kempe |
Arddull | llenyddiaeth plant, ffantasi |
Plant | Adam Lively |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Carnegie, Gwobr Man Booker, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Tufts, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, doctor honoris causa of the University of Warwick |
Gwefan | https://penelopelively.co.uk/ |
Awdures o Saesnes a anwyd yn yr Aifft yw Penelope Lively (ganwyd 17 Mawrth 1933) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, cyflwynydd radio ac awdur llyfrau plant.
Ganed Penelope Margaret Low, yn Cairo, yr Aifft ar 17 Mawrth 1933. Priododd Jack Lively yn 1957 a chawsant ddau o blant cyn i Jack farw yn 1998.[1][2] Yn 2019 roedd yn byw yn Llundain.[3]
Enillodd Wobr Booker am Moon Tiger (1987) a Medal Carnegie ar gyfer llyfrau plant (gwledydd Prydain) am The Ghost of Thomas Kempe (1973).[4][5][6][7]
Gyda llyfrau plant y cafodd ei llwyddiant cyntaf, pan gyhoeddodd Astercote, gan Heinemann ym 1970. Mae'n nofel ffantasi-isel wedi'i lleoli mewn pentref yn y Cotswolds a choedwig cyfagos, hen bentref canoloesol a ddilewyd gan haint.[8] Cyhoeddodd Lively fwy nag ugain o lyfrau i blant, ac yn eu plith ystyrir The Ghost of Thomas Kempe (Heinemann, 1973) ac A Stitch in Time (Collins, 1976) fel dau o'r goreuon. Enillodd y cyntaf Fedal Carnegie yn 1973 a'r ail lyfr y Whitbread Children's Book Award yn 1976. [9][10]
Cyhoeddwyd nofel gyntaf Lively ar gyfer oedolion, The Road to Lichfield, ym 1977 a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker.[11] Ailadroddodd y gamp yn 1984 gyda According to Mark, ac enillodd wobr yn 1987 am Moon Tiger, sy'n adrodd hanes bywyd merch wrth iddi farw mewn gwely yn yr ysbyty. Fel gyda phob un gwaith ffuglen Lively, mae Moon Tiger yn rhoi sylw manwl i rym y cof, effaith y gorffennol ar y presennol, a'r tensiynau rhwng hanesion "swyddogol" a phersonol.
Archwiliodd yr un themâu, i fwy o ddyfnder, yn ei gwaith ffeithiol, gan gynnwys A House Unlocked (2001) ac Oleander, Jacaranda: A Childhood Perceived (1994), cofiant o'i phlentyndod yn yr Aifft. Cyhoeddodd Ammonites & Leaping Fish: A Life in Time, (a elwir yn ddiweddar yn Dancing Fish and Ammonites: A Memoir) yn 2013.
Ar wahân i'w nofelau a'i storiau byrion, dros y blynyddoedd sgwennodd Lively sgriptiau radio a theledu ac mae hi wedi cyflwyno rhaglenni radio, a chaiff ei hystyried gan rai yn feirniad llenyddol hefyd.
Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.