Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanddeiniolen |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.152°N 4.166°W |
Cod OS | SH551638 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref bychan yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Penisa'r-waun[1][2] neu Penisarwaun. Saif ym mryniau Arfon, tua 4 milltir i'r dwyrain o Gaernarfon a milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanrug.
Ward etholiadol yn yr ardal yw Penisa'r-waun. Poblogaeth y ward yn ôl Cyfrifiad 2011 oedd 1,768.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[5]
Mae'r pentref yn cynnwys ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Gymuned Penisarwaun, sy'n addysgu tua 60 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed.[6] Mae tua 70% o'r disgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg.[7]