Pennaeth (ysgol)

Arweinydd ysgol ydy'r Pennaeth, Prifathro neu Brifathrawes, sydd erbyn heddiw yn gyfrifol am sawl agwedd ar reolaeth y sefydliad, yn cynnwys materion cyllidol. Caiff ei benodi gan Gorff Llywodraethol yr ysgol ac yn gyfrifol am reoli'r ysgol ar eu rhan. Tan yr 1980au y gair a ddefnyddiwyd oedd "prifathro" ar ddyn a "phrifathrawes" ar ddynes. Caiff ei gyflogi i baratoi dogfennau, polisiau, prospectws a llythyrau rhieni ond yn bennaf er mwyn sicrhau fod anghenion addysgol y disgyblion yn cael eu cwrdd.

Ceir pennaeth ar ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae rhai penaethiaid, yn enwedig ysgolion bach, yn dysgu yn ogystal â rheoli a bod yn gyfrifol am yr ochr fugeiliol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato