Pennant Roberts

Pennant Roberts
Ganwyd15 Rhagfyr 1940 Edit this on Wikidata
Weston-super-Mare Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 2010 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr Cymreig oedd Pennant Roberts (15 Rhagfyr 194022 Mehefin 2010[1]) a oedd yn nodedig am ei waith ar deledu Prydeinig.

Ganwyd Roberts  yn Weston-super-Mare i rieni Cymreig. Gweithiodd ar y rhaglenni BBC canlynol: Softly, Softly, Doomwatch, The Onedin Line, Sutherland's Law, Survivors, Angels, Blake's 7, Doctor Who, Juliet Bravo, Tenko a Howards' Way. Priododd yr actores Betsan Jones yn 1970 a daeth i siarad Cymraeg yn rhugl.[2] Symudodd i Gaerdydd yn 1994 a daeth yn weithgar yn y diwydiant teledu Cymreig gan gyfarwyddo cynyrchiadau i'r BBC a HTV. Cynhyrchodd ddramau ar gyfer Theatr y Sherman.[3]

Roedd Roberts yn weithgar o fewn y Gymdeithas Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr, ac yn gadeirydd ar y corff am sawl blwyddyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pennant Roberts - Obituaries - The Stage". 23 August 2010.
  2. Piers Haggard Obituary: Pennant Roberts, The Guardian, 6 August 2010
  3. Haggard, Piers (6 August 2010). "Pennant Roberts obituary".

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]