Pennar Davies | |
---|---|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1911 Aberpennar |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, diwinydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Bardd, awdur a diwinydd o Gymru oedd William Thomas Pennar Davies (12 Tachwedd 1911 - 29 Rhagfyr 1996) BA BLitt PhD. Cafodd ei eni yn Aberpennar, Cwm Cynon (Rhondda Cynon Taf).[1]
Roedd yn aelod o Blaid Cymru ac fe sefodd dros y blaid honno ar gyfer sedd seneddol San Steffan yn Llanelli yn etholiadau 1964 a 1966. Ymgyrchodd dros gael sianel deledu Gymraeg.
Tad y bardd Meirion Pennar oedd ef.