Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygiadau Rhyngwladol, Minister of State for the Armed Forces, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog dros Amddiffyn, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, Tâl-feistr Cyffredinol, Minister for Disabled People, Parliamentary Under-Secretary of State for Decentralisation, Gweinidog dros Fasnach, Parliamentary Under-Secretary of State for Communities and Local Government, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Arweinydd y Tŷ Cyffredin
Gwleidydd Seisnig yw Penelope Mary Mordaunt / / ˈmɔːrdənt / ; ganwyd 4 Mawrth1973), yn fwyaf adnabyddus fel '''Penny Mordaunt'''. Mae hi'n Arweinydd Tŷ'r Cyffredin ac yn Arglwydd Lywydd y Cyngor ers mis Medi 2022. Mae hi'n aelod o’r Blaid Geidwadol, ac yn Aelod Seneddol (AS) dros Ogledd Portsmouth ers mis Mai 2010 .
Cafodd Mordaunt ei geni[1][2] yn Torquay, Dyfnaint, yn ferch i John Mordaunt, gyn-aelod Y Gatrawd Barasiwt. [3] Bu farw ei mam, Jennifer ( née Snowden; m. 1988), athrawes anghenion arbennig mewn sawl ysgol yn Purbrook . [4] Trwy ei mam mae Mordaunt yn berthynas i Philip Snowden, Canghellor Llafur cyntaf y Trysorlys . [5] Roedd yr actores y Fonesig Angela Lansbury yn gyfnither i'w nain, [6][7] ac felly mae hi'n perthyn o bell i'r cyn arweinydd Llafur George Lansbury .
Fel Arglwydd Lywydd y Cyfrin Gyngor a chludwr y Cleddyf Gwladol , cymerodd Mordaunt ran yng Nghoroniad, Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig ar 6 Mai 2023, gan gyflwyno Cleddyf yr Offrwm Tlysog.[8] Hi oedd y fenyw gyntaf erioed i gyflawni'r rôl. [9]
Comisiynwyd Mordaunt i'r Llynges Wrth Gefn Frenhinol, gan wasanaethu o 2010 tan 2019. [14]
Cyfarfu Mordaunt â Paul Murray pan oedd y ddau ohonynt yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Reading a phriodi ag ef ym 1999, ond daeth hyn i ben mewn ysgariad yn 2000. [15][16] Roedd hi mewn perthynas hirdymor gyda dyn busnes Ian Lyon. [17] Mae hi wedi byw yn Portsmouth ar hyd ei hoes. [18]