Math | cromlech |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Lleoliad | Nanhyfer |
Sir | Nanhyfer, Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.999°N 4.77°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Deunydd | carreg |
Dynodwr Cadw | PE008 |
Pentre Ifan yw cromlech fwyaf Cymru. Saif yng ngogledd Sir Benfro, rhyw 2 km o bentref Nanhyfer a 17 km o Aberteifi.
Mae'r gromlech, sydd yng ngofal Cadw, yn dyddio o tua 3500 CC., ac yn wreiddiol roedd wedi ei gorchuddio gan domen o gerrig tua 36 m o hyd i ffurfio siambr gladdu. Mae'r maen capan yn 5.1 m o hyd, ac yn pwyso tua in 16 tunnell.
Mae amlinelliad yr henebyn, sydd wedi'i gloddio gan archaeolegwyr, yn dangos fod ei ben blaen ar ffurf cilgant gyda phorth uchel a bod y domen o gerrig yn culhau yn y cefn. Mae hyn yn siap anghyffredin yng Nghymru, ond ceir siambrau claddu cyffelyb yn ne-orllewin yr Alban. Mae'r cyfan yn gorwedd ar echel ogledd - de.
Darganfuwyd olion tyllau rheolaidd ar ei ymyl a rhesi o gerrig bychain a oedd efallai o arwyddocâd defodol fel rhan o gwlt y meirw.
Yn 2023 agorodd Urdd Gobaith Cymru wersyll newydd ger safle cromlech Pentre Ifan. Mae Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan wedi ei henwi ar ôl y gromlech. Mae'n llai na'r chwaer gwersylloedd yn Llangrannog neu Glan-llyn ac wedi ei teilwrio at arddegwyr hŷn a phobl ifainc.