Pentre Maelor

Pentre Maelor
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.033578°N 2.935621°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yn agos i ystad ddiwydiannol y dref, ydy Pentre Maelor. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Abenbury ac ym Mhentre Maelor y mae mwyafrif poblogaeth y gymuned yn byw.[1] Mae'r afon Clywedog yn llifo ychydig i'r de o'r pentref.

Cafodd Pentre Maelor ei sefydlu ym 1947 fel ystad dai er mwyn darparu llety i weithwyr o ffatrïoedd yn yr ardal. Mae'r pentref wedi cadw ei cynllun gwreiddiol, sy'n cynnwys clo canolog petryalog ac 'adenydd' cysylltiedig o dai, gyda pob un ohonyn yn cael ei hadeiladu o gwmpas gofod gwyrdd.[2]

Roedd yr ardal leol yn cael ei adnabod yn wreiddiol fel 'Pilgrim's Place' oherwydd ei defnydd fel lle claddedigaeth ar gyfer anghydffurfwyr.[1] 'Pilgrim Way' yw enw un o strydedd yr ystad.

Mae 'Maelor' yn enw'r pentref yn cyfeirio at enw hanesyddol yr ardal sydd bellach yn Fwrdeistref Sirol Wrecsam.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatri a oedd yn cynhyrchu cordit ar gyfer y rhyfel ar ddarpar safle'r pentref.[1]

Yn 2017 adeiladwyd Carchar Berwyn nid nepell o Bentre Maelor, ar safle hen ffatri.  

Cofrestrwyd yr ystad yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'rhif NPRN 409234.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Pentre Maelor - A Brief History - Abenbury Community Council". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-29. Cyrchwyd 2022-05-17.
  2. 2.0 2.1 "Pente Maelor Housing Estate, Wrexham - Coflein".