Penuwch

Penuwch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2458°N 4.056°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN597628 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Cerfluniau gan blant yr ysgol leol, Penuwch

Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Penuwch. Fe'i lleolir ar bwys ffordd gefngwlad sy'n rhedeg rhwng y B4577 a'r B4342, tua 12 milltir i'r de o Aberystwyth a thua 10 milltir i'r dwyrain o Aberaeron.

Y pentrefi agosaf yw Bethania a Blaenpennal i'r gogledd a Llangeitho i'r de; gorwedd Penuwch yng nghanol y triongl a ffurfir gan y pentrefi hyn. I'r gogledd ceir llethrau'r Mynydd Bach. Llifa un o ledneintiau Afon Aeron trwy'r pentref.

Mae'r ysgol gynradd leol, Ysgol Gynradd Penuwch, yn perthyn i gylch Ysgolion Cylch Tregaron.

Ganed Thomas Huws Davies ym Mhenuwch, golygydd The Welsh Outlook a hanesydd lleol. Un o'i edmygwyr oedd T. Gwynn Jones, a ysgrifennodd deyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth. Treuliodd T. I. Ellis lawer o amser yn y Cwrt Mawr ym Mhenuwch yn ei blentyndod; un o Benuwch oedd ei fam.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1952), tud. 57.
Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.