Pescennius Niger | |
---|---|
Ganwyd | c. 135 Aquino |
Bu farw | 194 o pendoriad Antiochia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, legatus Augusti pro praetore |
Tad | Annius Fuscus |
Mam | Lampridia |
Priod | Unknown |
Plant | Unknown |
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Gaius Pescennius Niger (tua 140–194). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
Ganed ef yn yr Eidal, efallai yn Aquinum. Cofnodir ef fel aelod o'r ordo equester yn ystod teytnasiad yn ymerawdwr commodus (180–192), pan benodwyd ef yn consul suffectus. Bu'm ymladd ar ffin yr ymerodreath yn Dacia, a rhwng 191 a 193 bu'n llywodraethwr Syria.
Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Clodius Albinus ym Mhrydain, Septimius Severus yn Pannonia a Pescennius Niger yn Syria.
Gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, ceisiodd ffoi ar draws afon Ewffrates i deyrnas Vologaeses, brenin Parthia, ond llofruddiwyd ef cyn iddo fedru croesi.