Pete Burns | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Pete ![]() |
Ganwyd | Peter Jozzeppi Burns ![]() 5 Awst 1959 ![]() Port Sunlight ![]() |
Bu farw | 23 Hydref 2016 ![]() o ataliad y galon ![]() Llundain ![]() |
Label recordio | Epic Records, Sony Music Entertainment Japan, Cleopatra Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, y don newydd, cerddoriaeth ddawns, Hi-NRG ![]() |
Math o lais | bariton ![]() |
Canwr, cyfansoddwr a phersonoliaeth deledu Seisnig oedd Peter Jozzeppi "Pete" Burns[1] (5 Awst 1959 – 23 Hydref 2016)[2]. Ffurfiodd y band Dead or Alive yn 1980, a roedd yn brif leisydd a chyfansoddwr y band. Daeth i sylw prif ffrwd gyda'i sengl "You Spin Me Round". Daeth i lygad y cyhoedd unwaith eto yn dilyn ei ymddangosiad ar Celebrity Big Brother 2006, lle orffennodd yn y pumed safle. Ymddangosodd ar sioeau teledu realaeth pellach, yn cynnwys peth gwaith cyflwyno.
Roedd Burns yn adnabyddus am ei ymddangosiad androgynaidd oedd yn newid yn gyson, a roedd yn cyfaddef ei fod wedi gwneud defnydd helaeth o lawdriniaeth cosmetig. Roedd Burns wedi cael chwistrelliadau polyacrylamide helaeth i'w wefusau, mewnblaniad bochau, sawl rhinoplasti a sawl tatŵ. Ar un adeg cyhuddodd Burns ei gyd seren bop Boy George o gopio ei ddelwedd unigryw.
Yn 2006 cynnar, datgelodd Burns mewn cyfweliad ei fod wedi gwario rhan fwyaf o'i gynilion oes ar 18 mis o lawdriniaeth adlunio ar ôl i driniaeth cosmetig ar ei wefusau fynd o'i le. Yn Ionawr 2007 cyhoeddodd Burns ei fod yn bwriad erlyn y llawfeddyg cosmetig, Dr Maurizio Viel, a wnaeth y llawdriniaeth gwreiddiol, am £1 miliwn.[3]
Yn Mawrth 2009, aeth Burns i ysbyty yn Llundain wedi dioddef o anhwylder ar yr arennau. Darganfuwyd fod ganddo saith carreg fawr ar y arennau, a fe'i gwaredwyd gyda llawdriniaeth laser.[4]
Dilynwyd Burns gan baparazzi yn dilyn ei arestio am ymosodiad yn 2006[5] (gollyngwyd y cyhuddiadau yn ddiweddarach) a fe ddangoswyd ei ymgais i adfer ei yrfa yn y rhaglen ddogfen Pete Burns Unspun ar Living TV.
Datganwyd Burns yn fethdalwr 10 Rhagfyr 2014.[6] Yn Ebrill 2015 cafodd ei droi allan o'i fflat am ddiffyg taliad o dros £34,000 mewn rent.[7]
Bu farw Burns yn dilyn ataliad ar y galon ar 23 Hydref 2016 yn 57 oed.[8] Talwyd teyrnged iddo gan nifer o bobl yn cynnwys Boy George, a ddisgrifodd Burns fel "one of our great true eccentrics", a dywedodd George Galloway, a ymddangosodd gydag e ar Celebrity Big Brother, fod Burns yn "cross between Oscar Wilde and Dorothy Parker. You don’t get more brilliant than that."[9]
Blwyddyn | Sengl | Safle uchaf |
Albwm |
---|---|---|---|
UK | |||
2004 | "Jack and Jill Party" | 75 | Non-album song |
2010 | "Never Marry an Icon" | — | |
"—" denotes releases that did not chart |
Teitl | Manylion albwm |
---|---|
Sex Drive 2014 Remixes |
|
|publisher=
(help); More than one of |accessdate=
a |access-date=
specified (help)
|publisher=
(help)
|accessdate=
a |access-date=
specified (help)